Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Annog preswylwyr Sir y Fflint i fod yn wyliadwrus
Published: 30/06/2021
Mae tîm Profi Olrhain Diogelu Sir y Fflint yn atgoffa pobl sy’n byw yn Sir y Fflint i fod yn wyliadwrus o symptomau coronafeirws. Daw’r cyngor ar ôl nifer cynyddol o achosion coronafeirws ledled y Sir.
Tra bod y Fflint wedi ei amlygu yn ystod y diwrnodau diweddar, mae niferoedd cynyddol ar draws y sir gyfan a dylai unrhyw un sydd â phrif symptomau COVID-19:
• gwres;
• tagiad newydd a pharhaus;
• colli/newid mewn blas ac arogl;
hunan ynysu yn syth am 10 diwrnod (ynghyd â gweddill y cartref), ac archebu prawf Adwaith Cadwynol Polymerase (PCR) trwy fynd i wefan Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/cael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu drwy ffonio 119.
Gellir archebu prawf PCR am ddim hefyd i bobl sydd â symptomau ehangach sydd yn newydd, parhaus a/neu yn anarferol iddyn nhw.
• Symptomau sy’n ymdebygu i’r ffliw, nad ydynt yn cael eu hachosi gan gyflwr megis clefyd y gwair, gan gynnwys unrhyw un neu'r holl rai isod:
• Myalgia (poen cyhyrol);
• Blinder llethol;
• Cur pen parhaus;
• Trwyn yn rhedeg neu’n llawn;
• Dolur gwddf a / neu grygni;
• Trafferth cael eich gwynt neu frest dynn;
• Cyfog, taflu i fyny neu ddolur rhydd
• Unrhyw symptomau newydd neu newid mewn symptomau yn dilyn prawf negyddol blaenorol
Pan gymerir prawf PCR ar gyfer y symptomau ehangach hyn nid oes angen i bobl hunan-ynysu wrth aros am ganlyniad eu prawf. Mae mwy o wybodaeth am y symptomau ehangach hyn ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Cwestiynau Cyffredin am brofi symptomau ehangach - https://bipbc.gig.cymru/covid-19/profi-olrhain-diogelu/profi-symptomau-ehangach/cwestiynau-cyffredin-am-brofi-symptomau-ehangach/
Mae BIPBC wedi agor Canolfan Brofi Symudol cerdded i mewn a gyrru trwodd yn y Fflint ar ddydd Llun 28 Mehefin. Ym Maes Parcio Swan Lane, Castle Heights, y Fflint, mae’r ganolfan ar agor o 9.30am hyd 4.30pm, saith diwrnod yr wythnos. Gellir gwneud apwyntiad am brawf ar-lein neu trwy ffonio fel nodir uchod.
Mae aelodau o’r cyhoedd nad oes ganddynt unrhyw symptomau, ac nad ydynt eisoes yn cael prawf Dyfais Llif Unffordd (LFD) yn rheolaidd ddwywaith yr wythnos yn y cartref, hefyd yn cael eu hannog i ddod ymlaen.
Mae 1 mewn 3 o bobl sydd â coronafeirws yn dangos dim symptomau ac yn cario’r feirws heb wybod, gan roi ffrindiau, teulu ac anwyliaid mewn perygl. Po fwyaf o bobl sy’n cymryd y prawf, po fwyaf o siawns y gallwn atal y lledaeniad.
Cliciwch ar y ddolen i wybod sut i gasglu eich pecyn prawf am ddim:
https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Cynllunio-Rhag-Argyfwng/COVID-19-Testing.aspx
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ynghyd â chyfres o gwestiynau cyffredin yn www.siryfflint.gov.uk/proficovid
Gall preswylwyr amddiffyn eu hunain ac eraill rhag coronafeirws trwy
• Gadw pellter cymdeithasol (dwy fedr)
• Golchi dwylo’n rheolaidd
• Gwisgo mwgwd pan fo angen
• Sicrhau bod eu cartref neu eu gweithle wedi ei awyru yn dda
Atgoffir preswylwyr hefyd;
• gellir ond ffurfio aelwyd estynedig rhwng tair aelwyd
• dylent gymryd y brechlyn pan ddaw’r cynnig
• hunan-ynysu a chael prawf os ydyn nhw neu unrhyw un yn eu haelwyd yn datblygu symptomau.
Mae hefyd yn hawdd trefnu dos cyntaf neu’r ail o'r brechlyn COVID-19 ar ddyddiad, amser a lleoliad cyfleus gan ddefnyddio gwasanaeth archebu ar-lein https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/