Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Busnes Neriesha yn ESGYN!
Published: 08/06/2016
Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint yn parhau i weithion galed i ddarparu
cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl leol.
Maer rhaglen ESGYN yn gynllun gan Lywodraeth Cymru i ddarparu, 5,000 o
gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth ledled Cymru erbyn diwedd 2017, ar gyfer
pobl sy’n byw mewn cartrefi lle nad oes unrhyw un yn gweithio.
Nid ywr rhaglen wedii hanelu at y rhai sydd allan o waith dros dro, ond yn
hytrach mae’n canolbwyntio ar unigolion sydd wedi treulio mwy na chwe mis allan
o waith. Mae ar gyfer y bobl hynny syn wynebur rhwystrau mwyaf i gael eu
cyflogi, syn cynnwys rhieni sengl ifanc, oedolion ag ychydig neu ddim
cymwysterau ffurfiol, pobl sydd â chofnodion cyflogaeth gwael a phobl anabl.
Dengys ymchwil fod pobl mewn cartrefi â’r nodweddion hyn yn llawer llai tebygol
o gael gwaith nag eraill.
Ymunodd Neriesha Coathupe â rhaglen Esgyn ym mis Mehefin y llynedd. Mae hin
byw yn Shotton ac wedi bod yn derbyn budd-daliadau am dros 3 blynedd.
Roedd ganddi brofiad blaenorol o gael ei chyflogi fel gwarchodwr plant, mae ei
phlant wedi tyfu fyny ac roedd hi’n teimlo ei bod yn barod i sefydlu ei busnes
gwarchod plant o’i chartref ei hun.
Fe aeth y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros
Ddatblygu Economaidd i ymweld â Neriesha yn ddiweddar a dywedodd:
“Mae hwn yn gynllun gwych gan Lywodraeth Cymru ac mae’r Cyngor yn fwy na
pharod i’w gefnogi - cael pobl i mewn i waith ac mae hyfforddiant yn
flaenoriaeth allweddol gan y Cyngor. Dymunwn y gorau i Neiesha yn ei menter
newydd.”
Wrth sôn am ei hamser ar raglen ESGYN, dywedodd Neriesha:
“Mae wedi bod yn ffordd hir i ddechrau fy musnes gwarchod plant ond gyda
chefnogaeth a chymorth gan fy mentor ESGYN, rwyf wedi gallu dyfalbarhau a
chyflawni fy mreuddwyd. Mae yna lawer o sefydliadau allan yna ond mae ESGYN yn
unigryw gydai chefnogaeth un i un, ac mae hyn wedi bod yn allweddol i mi
ddechrau fy musnes. Os hoffai rywun ragor o wybodaeth, ffoniwch 0787 6133340.”
Os oes gennych ddiddordeb ymuno â rhaglen Esgyn a’ch bod yn cwrdd âr meini
prawf a nodir isod, mae croeso i chi gysylltu â ni ar: 01244 846090 neu e-bost:
Debbie.barker@flintshire.gov.uk
Meini Prawf:
Di-waith am 6 mis a mwy
Yn byw yn ardal Cymunedau yn Gyntaf
Yn byw mewn cartref di-waith
O’r chwith: Debbie Barker, Cyngor Sir y Fflint, Bentley, Neriesha Coathupe ar
Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros