Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ydych chi wedi cael eich canllaw pleidleisio? – Allwch chi ddim ei golli!
Published: 03/06/2016
Gyda refferendwm yr UE yn prysur agosáu, mae Cyngor Sir y Fflint yn atgoffa
preswylwyr sydd heb gofrestru i bleidleisio i wneud hynny erbyn 7 Mehefin.
Bydd y refferendwm ar aelodaeth y DU or Undeb Ewropeaidd yn cael ei gynnal
dydd Iau 23 Mehefin.
Mae canllaw pleidleisior Comisiwn Etholiadol, a gafodd ei ddosbarthu i bob
cartref yn y DU dros yr wythnos ddiwethaf, yn cynnwys gwybodaeth bwysig i
bleidleiswyr am sut i gofrestru i bleidleisio, sut i gyflwyno eich pleidlais, a
dadleuon gan brif ymgyrchwyr yr ochrau Aros a Gadael’.
Dywedodd Colin Everett, Swyddog Cyfrif Rhanbarthol Cymru,
“Nawr bod pleidleiswyr yn Sir y Fflint wedi cael y canllaw pleidleisio gan y
Comisiwn Etholiadol, dylai pleidleiswyr fod yn
wybodus ac yn barod i gymryd rhan yn y refferendwm ar 23 Mehefin. Gall unrhyw
un sydd heb gael copi ei weld
ar-lein ar www.aboutmyvote.co.uk
“I unrhyw un sydd heb gofrestru ewch ar-lein ar www.gov.uk/register-to-vote.
Nid oes angen i bleidleiswyr sydd eisoes wedi cofrestru, gofrestru eto ar gyfer
Refferendwm yr UE.
Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth Swyddfa Comisiwn Etholiadol Cymru:
“Maer refferendwm ar 23 Mehefin yn gyfle i bobl gael dweud eu dweud ar un o
faterion gwleidyddol allweddol ein hoes.
“Mae pleidleiswyr wedi dweud wrthym eu bod eisiau gwybodaeth hygyrch a diduedd
fel eu bod yn teimlo y gallant wneud penderfyniad gwybodus yn y blwch
pleidleisio. Rydym wedi anfon ein canllaw i bob cartref ledled y DU er mwyn i
gymaint o bobl â phosibl deimlon hyderus ynghylch bwrw eu pleidlais ar 23
Mehefin.
Maer canllaw hefyd ar gael ar-lein yn Gymraeg a Saesneg, ac wedi cael ei
gynhyrchu mewn amrywiaeth o ieithoedd gwahanol a fformatau hygyrch.
Dylai unrhyw bleidleiswyr sydd angen unrhyw wybodaeth ychwanegol fynd i
www.aboutmyvote.co.uk neu ffonio
Llinell Gymorth y Comisiwn Etholiadol ar 0800 3 280 280.