Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dewch i gael rhywfaint o amser gwyllt yr haf hwn!
Published: 02/06/2016
Mae Wythnos Bioamrywiaeth Cymru eleni yn rhedeg o ddydd Sadwrn 4 Mehefin i
ddydd Sul, 12 Mehefin, gyda llawer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn Sir y
Fflint i ddathlu.
Yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, bydd Fy Amser Gwyllt yn cael ei lansio - ymgyrch
i gael pobl i ailgysylltu â natur. Mae Fy Amser Gwyllt yn ymwneud â dod o hyd
i’ch ochr wyllt drwy fynd tu allan a sylwi ar y byd on cwmpas, bydd yn rhedeg
ochr yn ochr ân rhaglenni Digwyddiadau sirol.
Ni allai fod yn haws i gymryd rhan, felly ymunwch âr ymgyrch #fyamsergwyllt.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros
yr Amgylchedd:
“Mae ein tîm bioamrywiaeth yma yn Sir y Fflint yn angerddol am fywyd gwyllt a
natur ac am i gymaint o bobl â phosib i gymryd rhan. Maen anhygoel i glywed
bod rhai plant 8-12 oed, a arolygwyd yn ddiweddar gan sianel deledu Eden, yn
credu fod gwartheg yn gaeafgysgu yn y gaeaf, ond yn adnabod dalek ond nid
tylluan ac yn meddwl fod gwiwerod llwyd yn frodorol ir wlad hon. Rydym yn
gweld ystadegau fel bod 64% o blant yn chwarae y tu allan llai nag unwaith yr
wythnos, ond mae mwy o dystiolaeth nag erioed i gefnogi’r manteision o dreulio
amser ymysg natur a chwarae gwyllt distrwythur i blant.
Dywedodd Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Sir y Fflint, Sarah Slater, syn trefnur
ymgyrch yn Sir y Fflint:
“Mae ein hymgyrch yn rhedeg trwy’r haf, gallwch lwytho lluniau ohonoch chi “yn
cael amser gwyllt” ar ein tudalen facebook https://www.facebook.com/NEWBioNet/
neu gyfrif twitter @NEWBioNet ddefnyddio #fyamsergwyllt.
“Llwythwch lun yn ystod wythnos Bioamrywiaeth Cymru 4-12 Mehefin ac fe anfonwn
nwyddau Wythnos Bioamrywiaeth Cymru atoch (un i bob person tra bo stoc).
Anfonwch e-bost atom yn biodiversity@flintshire.gov.uk gydar ddolen ich post
trydar neu facebook a chynnwys eich cyfeiriad post.
Os ydych yn rhedeg dosbarth neu grwp, beth am gymryd rhan a’i symud tu allan
Cylch chwarae yn y parc, Celf yn y lotment, maer posibiliadaun ddiddiwedd.
Cysylltwch â ni, byddwn yn eich helpu i hyrwyddo eich digwyddiad trwy ein
tudalen facebook ac unrhyw gysylltiadau lleol sydd gennym.
Mae rhai or digwyddiadau gwych syn rhedeg trwy Wythnos Bioamrywiaeth Cymru
yng Ngogledd Ddwyrain Cymru wedi eu rhestru isod:
3 – 6 Mehefin: Loggfest ym Mharc Gwledig Loggerheads, ger Yr Wyddgrug, Sir
Ddinbych
Gwyl llawn hwyl ir teulu cyfan o gerddoriaeth wych, bwyd a diod. Am fwy o
wybodaeth ewch i loggfest.co.uk.
5 - 11 Mehefin: Gwyl Gerdded Wrecsam www.walksinwrexham.com
Dydd Mawrth 7 Mehefin 11am: Campfa Werdd Sir y Fflint. Cyfarfod yng nghae
Rygbir Leadmills, Wyddgrug, rhywfaint o waith rheoli cynefin ffisegol a
phlannu blodau gwyllt. Gwisgwch ddillad ac esgidiau glaw priodol, bydd offer a
menig yn cael eu darparu.
Dydd Iau 9 Mehefin 10am: Pilates yn y planhigion. Dewch i fwynhau Pilates yn
amgylchedd hardd Plas Newydd, Llangollen. Croeso i bob lefel. Dim angen unrhyw
offer. Rhaid archebu lle erbyn dydd Gwener 3 Mehefin. Maer digwyddiad hwn yn
ddibynnol ar y tywydd. Cyfarfod yn y meini hirion.
Dydd Iau 9 Mehefin 2pm: Tai chi o dan y coed. Parc Gwepra - Dewch draw i roi
cynnig ar Tai chi ym Mharc Gwledig hyfryd Parc Gwepra, Cei Connah, Rhaid
archebu erbyn dydd Gwener 3 Mehefin. Maer digwyddiad hwn yn ddibynnol ar y
tywydd. Cyfarfod yn y ganolfan ymwelwyr.
Dydd Iau 9 Mehefin 3.45-5.15pm Anturiaethau Bychain ar ôl Ysgol Parc Gwledig
Loggerheads. Archwiliwch a dysgwch am y byd naturiol gydar Warden yn y
gweithgareddau ym Mharc Gwledig Loggerheads yn cynnwys trochi yn yr afon i
ddarganfod y bywyd gwyllt anhygoel syn byw yno, gwneud cartrefi gwenyn i
helpu’r pryfed hanfodol hyn, casglu dail a bod yn greadigol ac ymchwilio i fyd
dirgel gwyfynod!
Dydd Iau 9 Mehefin 8.30 - 10pm: Bywyd Nos ym Moel Famau: Cyfarfod ym Maes
Parcio Coed Moel Famau / SJ 174 613 Taith gerdded drwyr goedwig ac allan ir
rhostir wrth iddi nosi - i weld pa anifeiliaid y gallem ddod o hyd iddynt yn y
parc gwledig yn y nos. Dylem weld ystlumod, tylluanod a gwyfynod, ac efallai
hyd yn oed y troellwr mawr swil. Archebwch ar 01352 810586 / 614.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Sarah Slater ar naill ai 01352 703263 neu
07968016884 neu e-bostiwch email sarah.slater@flintshire.gov.uk. Gweler hefyd y
llyfryn Digwyddiadau Cefn Gwlad Sir y Fflint 2016 ar gael ar ein gwefan.
Os yw #fyamsergwyllt wedi rhoi blas i chi am yr awyr agored yna beth am fynd i
rai o’n gweithgareddau mwy hynod fyth isod:
30 diwrnod gwyllt yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt ym mis Mehefin
http://www.mywildlife.org.uk/30dayswild/
Haf o fywyd gwyllt y BBC – gallwch gael eich pecyn yn
http://news.bbc.co.uk/1/shared/bsp/hi/pdfs/11-07-13summer_of_wildlife_handbook_u
pdated_version.pdf
50 bethau iw gwneud cyn eich bod yn 13/4 yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
http://www.nationaltrust.org.uk/50-things-to-do