Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sorted Sir y Fflint yn lansio DVD ysbrydoledig
Published: 06/06/2016
Yn ddiweddar mae tîm Cyffuriau ac Alcohol Pobl Ifanc Cyngor Sir y Fflint,
Sorted, wedi lansio DVD ysbrydoledig a wnaed gan bobl ifanc i addysgu pobl
ifanc am beryglon defnyddio canabis.
Mae “Young, Wild & Free yn adrodd yr hanes o sut y gall cyffuriau dreiddio i
mewn ich bywyd ac yna ei fwyta, gan arwain at ddewisiadau bywyd gwael. Maen
cael ei hadrodd mewn arddull anlinellol trwy lygaid a meddwl y prif gymeriad
Beth.
Wedi cymryd dwy flynedd i’w gwneud, cafodd y ffilm ei hariannu gan PACT
(Partneriaethau a Chymunedau Ynghyd), Gwirvol a Grant Cymorth Strategaeth
Gwaith Ieuenctid Sir y Fflint a hwyluswyd gan TAPE Community Music and Film a
fu’n ffilmio a golygu’r prosiect. Dyfeisiwyd y ffilm fer gan Grwp Llywio Sorted
Sir y Fflint, a ysbrydolodd y sgript ac ymddangos ynddi yn y ffilm.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
“Maer DVD unigryw hwn yn adnodd addysgiadol gwych. Bydd ein tîm Sorted Sir y
Fflint yn cyflwyno hwn i addysgu ar gyfer atal defnyddio trwy ysgolion
uwchradd, colegau, unedau cyfeirio disgyblion, clybiau ieuenctid a phrosiectau
cymunedol yn Sir y Fflint. Byddant yn dechrau cyflwyno cyn gynted ag y bo modd
y tymor hwn ac o fis Medi, bydd yn cael ei ymgorffori yn y cwricwlwm i gael ei
ddangos yn ystod sesiynau ABCh fel rhan on rhaglen ysgolion iach. Maer DVD
yn para 15 munud, ond mae cyfleoedd i’w oedi er mwyn annog trafodaeth grwp.
DIWEDD
Nodyn i Olygyddion
Mae Gwirvol yn bartneriaeth amrywiol unigryw Gymreig, yn hyrwyddo, cefnogi a
llywio gwirfoddoli ymysg pobl ifanc ieuenctid.