Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gofyn barn am gynlluniau’r Cyngor ar gyfer ynni adnewyddadwy
Published: 18/05/2016
Mae preswylwyr Sir y Fflint yn cael eu gwahodd i rannu eu barn ar gynllun
gweithredu ynni adnewyddadwy deng mlynedd drafft y Cyngor.
Bydd y cynllun uchelgeisiol yn gweld y Cyngor Sir yn creu ei ynni adnewyddadwy
ei hun, trwy ddefnyddio rhai oi asedau tir sylweddol, yn amrywio o ffermydd i
safleoedd tirlenwi wedi’u hadfer, parciau a choetiroedd, fel ffynonellau ynni
adnewyddadwy. Bydd hyn yn gynaliadwy ac yn broffidiol, gydar incwm a
gynhyrchir yn helpur Cyngor Sir yn ei her barhaus i ganfod arbedion ac
effeithlonrwydd. Bydd hefyd yn creu twf economaidd a swyddi lleol.
Mae pren gwastraff a gesglir ar safleoedd amwynder dinesig y Cyngor wedi ei
nodi fel ffynhonnell bosibl o gynhyrchu pwer ar gyfer gwres a golau, gydag
arbedion posibl a nodwyd o £500,000 y flwyddyn o leiaf. Mae mwy o blannu coed
yn cael ei gynllunio, a fyddain creu ffynhonnell gynaliadwy o fiomas (sglodion
coed, pelenni a logiau) a fyddai hefyd yn creu ardaloedd coetir ychwanegol,
hygyrch ir cyhoedd.
Ymhlith ei uchelgeisiau hefyd mae’r posibilrwydd, fel ffordd o gynhyrchu ynni
adnewyddadwy, gallair Cyngor fod yn gyflenwr ynni i bobl a busnesau lleol. Mae
ffermydd solar hefyd yn cael eu hystyried, gyda lleoliadau iw penderfynu.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn digwydd i ofyn i bobl fynegi barn am nodau ac
amcanion y cynllun.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros
yr Amgylchedd:
“Maer Cyngor hwn wedi ymrwymo i wneud ei gyfran deg i leihau ein hôl troed
carbon, i ddefnyddio ynni mor effeithlon ag y gall ac i hyrwyddo
effeithlonrwydd ynni ar bob cyfle.
“Bydd ein cynllun gweithredu deng mlynedd, ar prosiectau arfaethedig o fewn
iddo, â manteision tymor hir ar gyfer y Cyngor a phreswylwyr Sir y Fflint, gyda
ffynhonnell sylweddol bosibl o incwm, costau ynni is, ar budd cynaliadwy o
allyriadau carbon is.
“Maer ymgynghoriad hwn yn gyfle in preswylwyr a busnesau rannu eu barn ar ein
cynllun uchelgeisiol, a byddwn yn annog cymaint o bobl â phosibl i lenwir
holiadur.
Maer holiadur ar gael yn www.siryfflint.gov.uk/YnniAdnewyddadwy. Y dyddiad cau
ar gyfer ymatebion yw 29 Mehefin.