Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Grwp Tasg Amgylcheddol Glannau Dyfrdwy
Published: 17/05/2016
Yn dilyn pryderon ynghylch lefel y sbwriel a thipio anghyfreithlon yn y
strydoedd cefn a strydoedd rhwng y Stryd Fawr a’r rheilffordd ar hyd coridor
Glannau Dyfrdwy, maer Cyngor wedi ffurfio Grwp Tasg i fynd ir afael âr
materion.
Arweiniwyd y Grwp gan swyddogion y Cyngor ai gefnogi gan aelodau lleol y
Cyngor a threfnwyd y camau gweithredu canlynol iw cymryd yn yr ardal:
· Maer ardal leol wedi cael ei glanhau yn rheolaidd a chofnodwyd cyfaint y
gwastraff a gwiriwyd i ganfod y tramgwyddwr/wyr;
· Mae arwyddion rhybudd wedi’u codi yn yr ardal, yn rhoi gwybod i drigolion am
y mannau casglu gwastraff cywir;
· Darparu trefniadau gorfodi gwell yn yr ardal;
· Mae gweithwyr gwasanaeth gwastraff y Cyngor hefyd wedi ymweld â phob eiddo yn
yr ardal i sicrhau eu bod yn ymwybodol ou trefniadau casglu gwastraff eu
hunain a bod ganddynt ddigon o gynwysyddion gwastraff ar gyfer eu gwastraff.
Yn flaenorol, tynnwyd hyd at 10 tunnell o ddeunydd tipio anghyfreithlon oddi ar
y strydoedd yn yr ardal bob mis ac ers cyflwyno’r ymagwedd newydd mae’r swm hwn
wedi lleihau ac maer ardal bellach yn dangos arwyddion gwelliant clir. Bydd
Swyddogion Gorfodi ychwanegol rwan yn patrolior ardal a bydd camau yn cael eu
cymryd os bydd rhywun yn cael eu canfod yn gollwng sbwriel neu’n tipio yn
anghyfreithlon yn yr ardal.
Dywedodd Aelod Cabinet yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie
Attridge:
“Mae’r Grwp Tasg a gweithredwyr y Cyngor wedi gweithion hynod o galed i
wellar ardal ac rwyf yn gobeithio rwan y bydd y preswylwyr yn cymryd rhan lawn
âr gwasanaeth casglu gwastraff trwy sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei
gyflwyno ar y diwrnod cywir ac yn y lleoliad cywir ar gyfer ei gasglu. Byddaf
yn gofyn am werthusiad o ganlyniad y prosiect ac os yw mor llwyddiannus ag yr
oedd yr arwyddion cyntaf yn ei awgrymu, byddwn yn gwneud trefniadau ar gyfer
cyflwyno’r broses mewn ardaloedd eraill yn y Sir, lle mae problemau tebyg yn
bodoli.