Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Darpariaeth gofal yn Sir y Fflint
Published: 16/05/2016
Yn ystod y cyfarfod Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 22
Ebrill, cafodd Darparwyr Gofal Annibynnol yn Sir y Fflint gyfle i fynegi eu
pryderon am y sector wrth Aelodau Craffu. Yn y cyfarfod cytunwyd bod y sector
gofal ar draws y sir yn wynebu heriau sylweddol yn ddi-oed ac yn yr hir dymor a
bod Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi’r angen am ddiwygiad cenedlaethol o safbwynt
cyllidor sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r Cyngor yn cydnabod y bydd dod o hyd i ateb cynaliadwy yn gofyn am
adnoddau sylweddol a bod cyfle i gydweithio gyda phartneriaid iechyd er mwyn
datrys cymhlethdodau’r sefyllfa, gan ddatblygu modelau mwy integredig o ofal a
chefnogaeth.
Meddair Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
“Roeddwn yn falch bod cynrychiolwyr Darparwyr Gofal Annibynnol yn Sir y Fflint
wedi mynychu cyfarfod mis Ebrill or Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal
Cymdeithasol. Bu’r drafodaeth yn y cyfarfod yn adeiladol iawn a bydd o gymorth
i ni ddeall yr anawsterau y mae Darparwyr Gofal Annibynnol yn eu hwynebu a sut
gallwn weithio tuag at ein nod cyffredin o ddarparu’r gwasanaethau gofal gorau
i bobl Sir y Fflint yn y cyfnod heriol hwn.
“Bydd y Cyngor yn ymgyrchu’n gyhoeddus i sicrhau bod anghenion y Sector Gofal
yn dal i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth newydd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr. Sicrhau bod ein partneriaid yn cydnabod taw dyma un o’r
materion mwyaf anodd sy’n wynebau’r sector gyhoeddus.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
“Gyda’n partneriaid iechyd rydym yn archwilio amrywiaeth o fodelau darparu gan
gynnwys modelau cydweithredol o ofal er mwyn cynnal yr economi gofal lleol ac
rydym hefyd yn bwriadu cynyddun darpariaeth gofal cartref mewnol, gan
weithion agos gyda darparwyr gofal. Rydym hefyd yn datblygu cynllun er mwyn
cynnal tri chartref gofal preswyl Cyngor Sir y Fflint ac mae cynlluniau eisoes
yn eu lle i ymestyn y ddarpariaeth Gofal Ychwanegol yn y Fflint a Threffynnon.