Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cabinet i ystyried adroddiad Rheoli Fflyd
Published: 16/05/2016
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried adroddiad yn argymell newid i
reolaeth fflyd cerbydau’r Sir pan fydd yn cyfarfod yr wythnos nesaf.
Maer adroddiad yn argymell bod contract 7 mlynedd yn cael ei ddyfarnu i
Essential Fleet Services (EFS) i gyflenwi, rheoli a chynnal y fflyd cerbydau
cyfan, tran cadwr staff gweithdy mewnol a fydd yn cynnal y gweithgareddau
cynnal a chadw ar ran y contractwr.
Maer argymhelliad hwn yn dod ar gefn cyfnod ymgynghori helaeth ac ar ôl cyfnod
tendro estynedig a oedd yn caniatáu ir Cyngor weithio gydar cwmni ar nifer o
faterion i sicrhau bod y fargen orau wedi’i chyflawni. Mae hyn yn enghraifft
arall o Gyngor Sir y Fflint yn bod mor effeithlon a modern yn ei arferion
gwaith ag y bo modd er mwyn arbed arian i amddiffyn gwasanaethau rheng flaen.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros
yr Amgylchedd:
“Mae yna nifer o fanteision i’r Cyngor, yn enwedig yr arbedion cronnus dros
saith mlynedd y contract sydd yn fwy na £2.5m. Byddwn yn gweithio gyda
phartner sydd â phrofiad ac arbenigedd yn y gwaith o gaffael a chynnal a chadw
fflydoedd mawr ar gyfer y sectorau cyhoeddus a phreifat, gyda dros 70 o
gleientiaid ar draws y DU. Byddant hefyd yn cynnig hyfforddiant a datblygu,
gan rannu eu profiad o arfer gorau o redeg gweithdai yn effeithlon gydan
staff. Mae hwn yn ateb siop un stop ar gyfer darparu a chynnal a chadw
fflydoedd, gan ryddhau adnoddau mewnol a lleihau costau gweinyddu a chostau
cysylltiedig.”
Maer contract wedi ei gynllunio i roi blaenoriaeth i ddatblygu cyfleoedd
busnes o fewn yr ardal leol, gan wneud y defnydd gorau o gyflenwyr a
gwasanaethau lleol.