Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Model Cyflenwi Amgen (MCA) Hamdden a Llyfrgelloedd – mae’r Cyngor; y Gwasanaeth a Staff yn hyderus mai sefydliad cydfuddiannol a arweinir gan y gweithwyr ywr ffordd iawn o fwrw ymlaen
Published: 16/05/2016
Bydd y Cabinet yn ystyried argymhelliad pan fydd yn cyfarfod yr wythnos nesaf i
greu sefydliad cydfuddiannol a arweinir gan y gweithwyr i ddarparu gwasanaethau
hamdden a llyfrgell o 2017.
Yng nghyfarfod mis Mawrth, ystyriodd y Cabinet y manteision a chefnogodd y
cynnig mewn egwyddor, yn amodol ar ragor o wybodaeth am sut y byddai
perchnogaeth yn gweithio a thystiolaeth bod y gweithwyr yn y gwasanaeth yn
hyderus âr dull hwn.
Maer manteision yn cynnwys arbedion a gynlluniwyd i’r gyllideb o hyd at 30%
tran cadwr ystod bresennol o gyfleusterau a gwasanaethau a lleihau unrhyw
ddiswyddiadau staff.
Mae rhan or cynnig yn cynnwys trosglwyddo ased cymunedol Pwll Nofio Cei Connah
a Chanolfan Hamdden Treffynnon. Mae Cambrian Aquatics i fod i gymryd rheolaeth
ar Bwll Nofio Cei Connah o 30 Mai ac mae cynlluniau’n cael eu datblygu gan
gymuned Treffynnon i drosglwyddor Ganolfan Hamdden mewn modd tebyg.
Byddai gweddill y cyfleusterau ar gwasanaethau wedyn yn trosglwyddo i
Sefydliad Cydfuddiannol wedi ei arwain gan y Gweithwyr yn ystod 2017. Bydd gan
weithwyr ran ymarferol yn natblygiad y cynigion terfynol a chynlluniau
gweithredu. Mae tri deg pedwar o weithwyr wedi ffurfio grwp llais y gweithlu i
helpu i ddatblygur cynigion.
Cyfarfu chwe aelod or grwp yn ddiweddar gyda chynghorwyr ac arweinwyr
gwasanaethau i wneud sylwadau ar y cynllun busnes, nodi beth y maent yn teimlo
yw eu rhan a nodi’r camau pwysig nesaf. Cadarnhaodd pob parti eu bod yn
hyderus i fwrw ymlaen âr cynnig. Bydd cynrychiolwyr yr arweinwyr gwasanaeth
ar gweithlu wrth law yn y cyfarfod i rannu eu barn.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
“Rwyf wedi fy mhlesion fawr gydag ymgysylltiad ac ymrwymiad y gweithwyr ac
mae hyn yn rhoi hyder i mi y gellir cyflenwi hyn fel sefydliad cydfuddiannol
wedii arwain gan y gweithwyr gyda staff yn cael rhan allweddol wrth wneud
penderfyniadau allweddol a chynyddu perfformiad y gwasanaeth.”
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer
Hamdden:
“Maer MCA hwn, syn cynnwys sefydliad cydfuddiannol a ariennir gan y
gweithiwr a throsglwyddo asedau Pwll Nofio Cei Connah a Chanolfan Hamdden
Treffynnon, yn cynnig rhywbeth unigryw gan nad oes cynlluniau i gau
cyfleusterau hamdden lleol na gwneud diswyddiadau mawr.
Dwedodd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Addysg gan
gynnwys llyfrgelloedd:
“Bydd y cynnig hwn yn helpu cynnal y rhwydwaith o lyfrgelloedd rydym wedi
gweithion galed i’w gyflwyno dros y 12 mis diwethaf ac sydd wedi cynnwys
trosglwyddo asedau cymunedol nifer o lyfrgelloedd cymunedol yn ogystal â
moderneiddio, adnewyddu ac ail-leoli Llyfrgell Glannau Dyfrdwy a bydd yn
cynnwys datblygiad tebyg yn Llyfrgell Treffynnon.”