Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gofalwch am ein bywyd gwyllt
Published: 11/05/2016
Hoffai Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint atgoffar cyhoedd i beidio â
mynd yn rhy agos at fywyd gwyllt na chodi unrhyw fywyd gwyllt i fyny hefyd
ymgynghori âr sefydliadau priodol yn gyntaf.
Achubwyd y mochyn daear bach yma ar ôl iddo beidio â dangos bod ofn cwn na
phobl arno, syn ymddygiad anghyffredin. Cafodd ei achub gan y Ceidwaid Cefn
Gwlad Rachel Watson a Stephen Lewis ac aethpwyd ag ef ir RSPCA ar ôl ei
fonitron ofalus am dros 3 diwrnod o amgylch Parc Gwepra. Er eu bod yn
ymddangos yn dlws ac annwyl, anifeiliaid gwyllt ydyn nhw a dylid gadael iddyn
nhw.
Maer tymor nythu wedi cyrraedd ac mae Ceidwaid hefyd yn cynghori pobl i beidio
â chodi cywion i fyny oni bai fod gwir angen oherwydd ni fydd eu rhienin rhy
bell i ffwrdd.