Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynlluniau tain cael eu cyflwyno iw craffu
Published: 05/05/2016
Yr wythnos nesaf, bydd Pwyllgor Arolygu a Chraffu Cymuned a Menter Cyngor Sir y
Fflint yn ystyried dau adroddiad sy’n tynnu sylw at lwyddiannau cynlluniau
tai’r cyngor.
Maer adroddiad cyntaf yn ceisio cymorth craffu i ddatblygu tai cyngor yn The
Walks yn y Fflint am gyfanswm o £3.95m fel rhan o Raglen Strategol Tai ac
Adfywio (SHARP) y Cyngor.
Dyma’r ail gynllun tai i gael ei gynnig yn dilyn Custom House yng Nghei Connah.
Yn y prosiect cyffrous hwn, sy’n rhan o ddatblygiad 92 cartref, bydd 30 o
gartrefi newydd y cyngor yn cael eu hadeiladu ar hen safle’r fflatiau deulawr a
bydd hyn yn rhoi llawer mwy o ddewis tai i drigolion y Fflint.
Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton:
Maer Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl drigolion yn cael llety a
safonau byw gweddus a phriodol. Dyna pam yr ydym yn buddsoddi mewn adeiladu
stoc newydd o dai cyngor am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth.
Ar ôl cael cymeradwyaeth y Cabinet ym mis Mehefin 2012, mae’r Cyngor wedi
cyflwyno Uwchgynllun y Fflint syn nodi map llwybr ar gyfer trawsnewid y
Fflint, gan adeiladu ar ei asedau niferus. Cafodd ei baratoi gan Gyngor Sir y
Fflint ar y cyd â thrigolion a busnesau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Gan fod y Fflint wedi’i adeiladu’n wreiddiol fel tref a gynlluniwyd yn
seiliedig ar groesffurf o strydoedd, mae dyluniad y cynigion pensaernïol yn
ceisio ail-greur patrwm strydoedd hwn.
I symud ymlaen, bydd cynlluniau tai Cyngor SHARP, sy’n cynnwys Maes y Meilion a
Heol y Goron, Coed-llai a Redhall, Cei Connah, yn cael eu cyflwyno ir Cabinet
ym mis Mehefin 2016 iw cymeradwyo i baratoi cais cynllunio yn dilyn y
digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus a gynlluniwyd.
Maer ail adroddiad yn gofyn ir pwyllgor adolygu ac argymell polisi
cydymffurfio ar gyfer Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn Sir y Fflint.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Dai, y Cynghorydd Helen Brown:
Rydym yn falch o allu dweud y bydd Sir y Fflint yn cyrraedd Safonau Ansawdd
Tai Cymru ar neu cyn y dyddiad cau, sef 2020. Mae hwn yn gyflawniad aruthrol o
ystyried yn 2012 na fyddai wedi bod yn bosibl cyrraedd y safon tan 2036. Mae
hyn wedi digwydd o ganlyniad i waith caled ac ymroddiad swyddogion ac aelodau
Sir y Fflint i gydweithio a’u hawydd i ddarparu tai o ansawdd uchel ar gyfer
tenantiaid Sir y Fflint.
Dawr Polisi Cydymffurfio yn sgîl cais gan Lywodraeth Cymru i bob awdurdod
lleol gynhyrchu polisi fel hyn ar gyfer eu heiddo SATC. Maer Polisi’n dangos
sut mae Sir y Fflint yn dehongli a chymhwyso SATC, sut mae’n cydymffurfio â
chydrannau unigol, a sut mae’n bwriadu asesu a gwirio’r ffordd y mae’n
cyflawni’r safon.
Bydd y polisi hwn yn ymateb i gais Llywodraeth Cymru i bob landlord gynhyrchu
Polisi Cydymffurfio SATC a Thystysgrif Cydymffurfio ar gyfer pob eiddo pan
fyddant yn eu hail-osod.
Mae Tystysgrif Cydymffurfio wedi’i ddatblygu ac fe’i cyflwynir pan gaiff eiddo
ei ail-osod. Maer Dystysgrif yn cynnwys rhestr o 41 o gydrannau sydd angen i
eiddo gydymffurfio â nhw i gyrraedd SATC.