Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Craffu er mwyn ystyried ateb arall ar gyfer gorfodaeth amgylcheddol
Published: 04/05/2016
Yr wythnos nesaf, bydd Pwyllgor Arolygu a Chraffu’r Amgylchedd Cyngor Sir y
Fflint yn ystyried adroddiad ar gynllun peilot 12 mis i ymgysylltu â phartner
allanol i gynorthwyo â dyletswyddau gorfodaeth amgylcheddol y Cyngor.
Mae troseddau amgylcheddol fel baw cwn a thaflu sbwriel yn parhau i fod yn
broblem fawr ac maer ddau fater hwn yn parhau i ddifetha parciau, mannau
agored a strydoedd y Sir. Bydd y trefniant newydd yn cynyddu nifer y swyddogion
gorfodi sy’n gweithio ar y strydoedd ac mewn mannau agored ar unrhyw adeg or
wythnos, er mwyn cynorthwyo swyddogion gorfodi presennol y Cyngor i ddarparu
ymagwedd dim goddefgarwch tuag at droseddau amgylcheddol.
Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet dros yr
Amgylchedd, y Cynghorydd Bernie Attridge:
Bu i ni gyflwyno dull gorfodi dim goddefgarwch fel rhan on proses Cynllunio
Busnes yn 2015-16. Ers hynny rydym wedi cynnal ymarfer ymgysylltu âr cyhoedd
a chodi ymwybyddiaeth helaeth, ymweld â busnesau, yn enwedig yng nghanol trefi,
a Chynghorau Tref a Chymuned i roi gwybod iddynt am y trefniadau gorfodi newydd
mwy trylwyr. Er gwaethaf ein holl ymdrechion, mae taflu sbwriel a baw cwn yn
parhau i fod yn broblem fawr ac rydym yn argymell cyflwyno trefniant gyda
phartner preifat sydd ag enw da am lwyddo i orfodi ym maes troseddau
amgylcheddol. Bydd effaith y cynigion yn cael eu hadolygu dros y flwyddyn nesaf
fel bo modd i ni asesu’r effaith ar lendid ein Sir cyn gwneud penderfyniad
terfynol ynglyn â’r gwasanaeth a ddarperir ar ddiwedd y cyfnod treialu
Ar ôl treialu’r trefniant am 12 mis, cynhelir gwerthusiad llawn o’i lwyddiant
cyn trefnu contract ac ymrwymiad mwy hirdymor.
Meddai Aelod Cabinet dros Wastraff a Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y
Cynghorydd Kevin Jones:
Mae llawer o awdurdodau lleol wedi ffurfio partneriaeth â chwmnïau preifat i
ychwanegu at eu gweithgareddau gorfodi. Rydym wedi cwrdd â sefydliadau
cenedlaethol sydd â phrofiad perthnasol ac wedi derbyn cynnig a fydd yn diwallu
ein hanghenion am 12 mis. Ni fydd cost am y gwasanaeth ir Cyngor a bydd pob
hysbysiad cosb penodedig a roddir yn darparu elw o 15%. Maer digwyddiad
glanhau traeth y bu i ni gymryd rhan ynddo’n ddiweddar, a drefnir gan Cadwch
Gymrun Daclus, yn dangos bod angen cymryd mwy o gamau gweithredu yn erbyn baw
cwn a sbwriel.