Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyflwyno Medalaur Ymerodraeth Brydeinig
Published: 12/05/2016
Mae Medalau’r Ymerodraeth Brydeinig wedi’u cyflwyno i ddau unigolyn o Sir y
Fflint a Sir Ddinbych, gan gydnabod eu cyfraniadau anhygoel i’r ardal – a
rhyngddynt maent wedi cyfrannu dros 55 mlynedd o wasanaeth gwirfoddol.
Cyflwynwyd y fedal i Elizabeth Hewitt o Sir y Fflint am yr amser y mae hi
wedi’i roi i filoedd o blant yn ei gofal. Yn ei rôl fel llywodraethwr ysgol mae
wedi cynorthwyo i arwain cynnydd disgyblion mewn dwy ysgol gynradd a
chynorthwyo i uno’r ddwy ysgol yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae hi wedi cyfrannu ar
lefel sylfaenol, gyda phlant, mewn cylch chwarae, ysgol, geidiaid ar eglwys.
Fel arweinydd y geidiaid, cynhaliodd y sesiynau wythnosol fel Capten, gan
gymryd rhan mewn nifer o deithiau ac annog y geidiaid i gymryd rhan mewn
gweithgareddau cymunedol.
Mae wedi rhedeg clwb y tu allan i oriau ysgol Little Rascals am 20 mlynedd ac
mae’r rhieni a’r plant yn ei chanmol yn arw. Mae ei gwaith gyda’r clwb wedi’i
gydnabod gan y corff arolygu AGGCC. Mae hi hefyd wedi rhoi o’i hamser fel
cymhorthydd bugeiliol yn y gymuned, mae’n ymweld â phobl sy’n wael ac yn cadw
cwmni i rai sy’n methu gadael eu cartref ynghyd â chynnal Cinio Cawl a Phwdin
misol yn Eglwys Sant Deiniol. Fel aelod o Undeb y Mamau mae hi’n llysgennad
perffaith. Mae ganddi amser ar gyfer pobl, ac ni fyddai’n oedi cyn rhoi cymorth
i eraill unrhyw bryd yn ystod y dydd neu’r nos – mae pawb syn ei hadnabod yn
ei charu ai pharchu.
Cyflwynwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Edward Watkin Evans o Sir Ddinbych
am wasanaethau gwirfoddol ac elusennol. Mae ei brofiadau pan yn ifanc yn y
Llynges Fasnachol yn ystod yr 1930au ac 1940au wedii gymell i gynorthwyo
eraill, rhywbeth y mae wedii gyflawnin sylweddol yn ystod y 35 mlynedd
ddiwethaf o wasanaethau gwirfoddol anhunanol. Ymunodd Mr Evans â’r Lleng
Brydeinig Frenhinol yn 1980 yng Nghangen leol Rhuthun a’r Rhanbarth, yn gyntaf
fel casglwr pabi ac yn 1984 fel Trefnydd Apêl Pabir Gangen (swydd a gadwodd
hyd 2012).
Yn ystod y cyfnod, tyfodd Apêl y Pabi o £7519 i £15358. Yn 2003, yn ogystal â’i
rôl yn Rhuthun, daeth yn Drefnydd Apêl y Pabi ar gyfer Rhanbarth Gogledd Cymru.
Ers hynny, oherwydd ei frwdfrydedd a’i gymhelliant, mae Apêl Rhanbarthol y Pabi
wedi cynyddu o £230.000 i dros £430,000 y llynedd. Drwy gydol ei fywyd, mae Ted
wedi mwynhau cynorthwyo pobl o bob oed, ac yntau’n 93 mlwydd oed yn awr mae’n
parhau i wasanaethu ei gymuned leol.
Cynhaliwyd y seremoni yn ddiweddar yng Nghastell Bodelwyddan ac roedd Arglwydd
Raglaw Clwyd, Henry George Fetherstonhaugh, Esq, OBE yn cyflwyno’r medalau, ac
fe ddywedodd:
“Roedd y seremoni yn achlysur arbennig iawn ac roedd yn bleser mawr cyflwyno
Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i’r derbynyddion haeddiannol hyn. Mae darparu
dros 55 mlynedd o wasanaeth gwirfoddol rhyngddynt yn gyflawniad anhygoel.
Hoffwn longyfarch y ddau ohonynt a diolch iddynt am eu cyfraniad sylweddol i’w
cymunedau.”
Mynychodd y ddau dderbynnydd gyda’u teuluoedd ac roedd y Dirprwy Raglaw Lloyd
Fitzhough a’r Cadét Rhaglaw, Kara Morris yn bresennol gyda’r Arglwydd Raglaw.