Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Un wythnos i fynd! Cofrestrwch nawr er mwyn cael dweud eich dweud ddydd Iau 5 Mai
Published: 11/04/2016
Gyda dim ond wythnos i fynd tan y dyddiad cau, maer Comisiwn Etholiadol a
Chyngor Sir y Fflint yn annog trigolion i sicrhau eu bod wedi cofrestru i
bleidleisio.
Ddydd Iau 5 Mai, bydd pleidleiswyr yng Nghymru yn cymryd rhan yn etholiadau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru, os ydych am allu pleidleisio a chael dweud
eich dweud yn yr etholiadau hyn, yw dydd Llun 18 Ebrill.
Dywedodd y Swyddog Canlyniadau: Colin Everett:
Gyda dim ond wythnos i fynd, nid oes gennych lawer o amser i sicrhau y gallwch
gymryd rhan yn yr etholiadau hyn yng Nghymru. Mae ein neges yn un syml: Os na
fyddwch wedi cofrestru erbyn 18 Ebrill, ni fyddwch yn gallu pleidleisio.
Byddwn yn annog pawb yn Sir y Fflint weithredu nawr os nad ydych wedi cofrestru
i bleidleisio ac i wneud cais ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.”
Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru:
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw dydd Llun 18 Ebrill 2016 felly nid oes
gennych lawer o amser i sicrhau eich bod wedi cofrestru ac y gallwch gymryd
rhan yn yr etholiadau pwysig hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Chomisiynwyr
yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru ar 5 Mai. Yn ôl ein gwaith ymchwil, y rheswm
pennaf pam nad yw pobl wedi cofrestru yw eu bod wedi symud ty, gyda dau o bob
pump o bobl yng Nghymru yn nodi mai dymar esboniad.
Dylai pob cartref fod wedi cael ein llyfryn gwybodaeth i bleidleiswyr syn
cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gofrestru ac i bleidleision
hyderus. Gallwch weld copïau on llyfryn yn www.fymhleidlaisi.co.uk neu gallwch
archebu copi drwy ffonio 0800 3 280 280.”