Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant â Chyllid Llyfrgelloedd

Published: 11/04/2016

Mae Gwasanaeth Llyfrgell Sir y Fflint yn mynd i elwa o gyllid Llywodraeth Cymru i helpu i ddatblygu a gwella gwasanaethau. Mae Llyfrgell Treffynnon wedi derbyn £120,000 a fydd yn golygu y gall cynlluniaur Cyngor i symud y llyfrgell ir Ganolfan Hamdden i greu canolbwynt canolog syn cynnig ystod o wasanaethau fynd yn eu blaenau. Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Gwasanaethau Hamdden, y Cynghorydd Kevin Jones:  Mae hyn wir yn newyddion iw groesawu ac yn golygu y gallwn bellach symud ymlaen i ail-leoli Llyfrgell Treffynnon yn y Ganolfan Hamdden. Bydd hyn yn gwneud cymaint o wahaniaeth drwy greu canolbwynt modern yn Nhreffynnon yn debyg ir un yr ydym wedii agor yn ddiweddar yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. Mae cydleoli yn golygu y bydd oriau agor y ganolfan yn hirach a gall cwsmeriaid gael mynediad at ystod ehangach o wasanaethau mewn un lle cyfleus. Bydd y symudiad hwn yn cryfhau uchelgeisiau hirdymor y Cyngor yn sylweddol mewn perthynas â gwasanaethau hamdden ac mae hefyd yn cefnogi rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor. Ychwanegodd Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Addysg, y Cynghorydd Chris Bithell,: Rwyn falch iawn ein bod wedi sicrhaur cyllid hwn. Bydd y canolbwynt newydd sbon hwn yn un croesawgar ac rydym yn gobeithio annog a denu defnyddwyr newydd, yn enwedig plant ifanc, gyda mannau gweithgareddau, Wi-Fi am ddim a mannau dysgu. Bydd pobl yn gallu eistedd a darllen neu gael mynediad at y cyfrifiaduron wrth aros am aelodau or teulu syn defnyddior cyfleusterau eraill yn y ganolfan. Maer gwaith i fod i ddechrau yn ddiweddarach eleni ar dyddiad agor arfaethedig ar hyn o bryd yw Ionawr 2017.