Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Deall arferion ailgylchu
Published: 05/04/2016
Gofynnir i Gynghorwyr Sir y Fflint, Cynghorau Tref a Chymuned, trigolion a
defnyddwyr gwasanaeth gymryd rhan mewn arolwg dros yr wythnosau nesaf, i
helpur Cyngor i ddeall anghenion lleol, fel y gellir cynnal adolygiad llawn o
Gasglu Gwastraff, Ailgylchu Gwastraff y Cartref a Pholisi Safleoedd Banciau
Ailgylchu. Maer adolygiad yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn
cyflawni targedau ailgylchu statudol heriol yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer
Strategaeth Wastraff:
“Wrth ddiolch in trigolion am eu cefnogaeth barhaus, drwy ddewis ailgylchu
mwy, gallwn ni i gyd helpu i wneud Sir y Fflint yn lanach ac yn wyrddach, gan
arbed £1,330,000 bob blwyddyn - arian y gellid ei wario ar wasanaethau hanfodol
eraill o amgylch y sir.
“Rydym bellach yn ailgylchu dros 58% o wastraff, ond maen rhaid i ni wneud
mwy. Maen rhaid i bob Cyngor yng Nghymru ailgylchu o leiaf 70% ou gwastraff
erbyn 2025. Mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o ailgylchu mwy heddiw er mwyn
sicrhau y gallwn leihau ein costau tirlenwi ac osgoi dirwyon sylweddol am
beidio ailgylchu digon yn y dyfodol.
“Hoffem wybod mwy am arferion ailgylchu cartref, fel y gallwn ddod o hyd i
ffyrdd o helpu pobl i ailgylchu mwy.”
Mae gwybodaeth am sut i gymryd rhan yn yr arolwg ar gael ar wefan y Cyngor
www.siryfflint.gov.uk/AilgylchuMwy Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 29
Ebrill.