Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cymunedau Taclusaf yn ôl oherwydd galw mawr
Published: 31/03/2016
Mae Cystadleuaeth Cymunedau Taclusaf eleni, a drefnwyd gan Gyngor Sir y Fflint,
yn draddodiad syn mynd yn ôl bron i ugain mlynedd.
Maer gystadleuaeth hynod boblogaidd hon wedi tyfu a datblygu - lle roedd
unwaith yn canolbwyntio ar flodau hardd, mae bellach hefyd yn annog tyfu
planhigion a blodau syn helpur amgylchedd ac annog bywyd gwyllt.
Mae paratoadau ar y gweill eisoes ac mae cymunedau yn cael eu hannog i roi
cynnig ar un or pum categori:
· Pentref / Cymuned Taclusaf â llai na 1,000 o boblogaeth
· Pentref / Cymuned Taclusaf â dros 1,000 a llai na 5,000 o boblogaeth
· Canol Tref Taclusaf (dros 5,000 o boblogaeth)
· Stâd Henoed Taclusaf
· Gardd Gymunedol/Ardal Bywyd Gwyllt Taclusaf
Dywedodd Cadeirydd presennol y Cyngor, y Cynghorydd Ray Hughes, a gynhaliodd
seremoni wobrwyo’r llynedd ym mis Medi:
“Maer gystadleuaeth hon wedi mynd o nerth i nerth, yn enwedig gyda
chystadleuwyr o ysgolion ac yn yr adran bywyd gwyllt / gardd gymunedol. Maer
Cyngor yn falch iawn i hwylusor digwyddiad hwn, ond ni fyddain bosibl heb
haelioni ein noddwyr gan gynnwys Airbus, Toyota, Clwyd Alyn, Grwp Cynefin a
Warwick Chemicals.
Wrth ir gystadleuaeth dyfu, rydym yn chwilio am noddwyr eraill i helpu i
sicrhau dyfodol y digwyddiad poblogaidd hwn, gallai hyd yn oed rhodd o £100
wneud gwahaniaeth anhygoel i un on cymunedau lleol.”
Y nod yw annog cymaint o bobl o bob oedran i gymryd rhan mewn gwella eu
hamgylchedd lleol. Mae digwyddiadau blaenorol wedi dangos bod y gystadleuaeth
yn dod â phobl at ei gilydd ac yn cyfrannu at wneud Sir y Fflint yn lle gwell i
fyw a gweithio.
Dywedodd Martin Fry, Arbenigwr o Toyota:
“Yn Toyota, rydym wedi ymrwymo i weithio gydar cymunedau rydym yn gweithredu
ynddynt a lle mae ein haelodau au teuluoedd yn byw, a’u gwella.
Rydym wedi cefnogir gystadleuaeth hon am flynyddoedd lawer ac yn parhau i
wneud hynny. Maer gystadleuaeth yn enghraifft ardderchog o’r effaith y gallwn
ni i gyd ei chael o fewn ein cymunedau lleol trwy ymuno i gymryd rhan. “Mae
cyfranogiad cymaint o grwpiau ac unigolion i wella eu hardal eu hunain yn
ganmoladwy iawn. Mae’n anodd i ddigwyddiadau fel hwn oroesi heb nawdd allanol,
mae Toyota yn hapus i fod yn gysylltiedig âr digwyddiad llwyddiannus iawn hwn.”
Meddai, Steve Thomas Swyddog Gweithredol Materion Llywodraeth Airbus:
“Mae Airbus yn cefnogi llawer o weithgareddau yn y gymuned leol, ond rydym yn
arbennig o awyddus i gefnogi cyfleoedd syn helpur gymuned leol i gymryd rhan
weithredol i wellar amgylchedd lleol, a dyna pam rydym yn falch iawn i
gefnogir gystadleuaeth hon.
“Mae’r beirniaid yn dweud bod y safonau yn y gystadleuaeth yn dal i gynyddu,
gymaint felly fel eu bod yn cael anhawster dewis enillwyr - mae’r ymdrech,
ysbryd cymunedol a balchder yn ein pentrefi lleol y mae’r digwyddiad hwn yn ei
ennyn yn aruthrol.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, nid ywn rhy hwyr i gofrestru - y
dyddiad cau yw 27 Mai 2016. A oes gennych ardal yr hoffech ei gwella ond ddim
yn gwybod lle i ddechrau - peidiwch â phoeni, mae help wrth law. Gallwch
gysylltu âch cyngor tref neu gymuned leol, eich Cydlynydd Gwasanaethau Stryd
lleol ar 01352 701234 neu Jan Kelly ar 01352 702301 neu
JanetKelly@flintshire.gov.uk.
Yn yr un modd, os ydych yn fusnes sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gyda nawdd,
waeth pa mor fach, cysylltwch â Jan am fwy o fanylion. Bydd unrhyw gyfraniad
yn helpu i sicrhau y gall y gystadleuaeth hon barhau a thyfu. Bydd noddwyr yn
cael eu cydnabod ar ddeunydd cyhoeddusrwydd ac yn cael eu gwahodd i gyflwyno
gwobrau yn y Noson Wobrwyo a gynhelir yn Neuadd y Sir ddydd Gwener, 9 Medi
2016.