Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cymeradwyo cyllid i ddiogelu priffyrdd
Published: 24/03/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cael gwybod gan Lywodraeth Cymru fod dros £0.5m
o’r cyllid y gwnaeth gais amdano i wella diogelwch Rhwydwaith Priffyrdd y
Cyngor yn 2016-17 wedi’i gymeradwyo.
Dyma’r cynlluniau a gymeradwywyd:
Gwella’r groesfan sebra ar yr A5151 London Road yn Nhrelawnyd
Gwella’r gyffordd rhwng Liverpool Rd / Alltami Rd ger y ganolfan feddygol
newydd ym Mwcle
Gwella diogelwch ar y briffordd ar yr A5104 ym Mhenymynydd
Gwella diogelwch ar y briffordd yn Lloc
Gwella canolfannau trafnidiaeth ar hyd y llwybrau bysiau craidd arfaethedig er
mwyn hybu trefniadau Trafnidiaeth Gymunedol arfaethedig y Cyngor
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet
dros yr Amgylchedd ei fod yn croesawu’r newyddion da: “Mae’r ceisiadau
llwyddiannus yn dilyn proses gadarn a thryloyw o ddethol cynlluniau addas, gan
sicrhau mai’r cynlluniau pwysicaf yn y Sir sy’n cael eu cyflwyno yn y cais am
arian. Bydd pob un o’r cynlluniau’n cyfrannu at wella diogelwch a hygyrchedd
rhwydwaith priffyrdd Sir y Fflint, sef un un o brif flaenoriaethau’r
weinyddiaeth hon”.
Caiff yr holl gynlluniau eu cwblhau erbyn 31 Mawrth 2017.
Pennawd: Y Cynghorydd Attridge gyda disgyblion y tu allan i Ysgol Trelawnyd yn
gynharach eleni