Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyfnod cyffrous i fusnesau’r Fflint
Published: 30/03/2016
Rhoddwyd y cyfle i fusnesau lleol yn y Fflint drafod cynlluniau i adeiladu
cymysgedd o dai cyngor a thai fforddiadwy ar safle The Walks, mewn Digwyddiad
Ymgysylltu a gynhaliwyd yn Eglwys y Santes Fair a Dewi Sant ar Stryd yr Eglwys.
Roedd cynrychiolwyr y partneriaid datblygu, Cyngor Sir y Fflint a Wates Living
Space Homes wrth law i gynnig cyngor a gwybodaeth am y datblygiad, a fydd yn
rhan o Bartneriaeth Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) ar draws Sir y Fflint.
Rhagwelir y bydd SHARP yn cynhyrchu budd gwerth dros £60 miliwn i economir sir
dros y 5 mlynedd nesaf. Mae hefyd disgwyl ir bartneriaeth gynhyrchu tua 2,000
o gyfleoedd gwaith a nifer o fentrau hyfforddi ar gyfer pobl ddi-waith lleol.
Er mwyn helpu i ysgogi gwariant gyda busnesau’r stryd fawr, maer bartneriaeth
yn lansior Cynllun Siopwyr SHARP. Bydd Gweithwyr ar brosiectau SHARP yn derbyn
cardiau ffyddlondeb ac mae cynlluniau i ddarparu cynllun gwobrwyo tebyg ar
gyfer preswylwyr syn symud i mewn ir fflatiau newydd.
Mae datblygiad The Walks yn cael ei ddatblygu ar yr un pryd â dau brosiect
cyffrous arall i symud canol Tref y Fflint yn ei flaen; datblygu canolfan
iechyd newydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ar y cyd â
Read Construction a datblygu cyfleuster gofal ychwanegol newydd gan Pennaf ar y
cyd ag Anwyl. Roedd cynrychiolwyr o Pennaf, Read Construction ac Anwyl hefyd
wrth law yn y digwyddiad i gynorthwyo gyda gwybodaeth a chyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor
Sir y Fflint:
“Rydym yn awyddus i weithio gyda busnesau lleol er mwyn lleihaur aflonyddu ar
eu masnachu a gweithgareddau gweithredol yn ystod y gwaith o ddatblygu The
Walks, y cyfleuster gofal ychwanegol newydd ar ganolfan iechyd newydd.
“Bydd y datblygiadau mawr hyn yn gweddnewid canol tref y Fflint yn y misoedd
nesaf, a bydd yn sicr yn cynnig llawer o gyfleoedd busnes i fasnachwyr a
darparwyr gwasanaethau lleol i’w harchwilio.
Dywedodd Joanne Jamieson, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Living Space Homes:
“Mae Wates Living Space Homes yn hynod falch o fod yn cefnogi adfywiad canol
tref y Fflint. Agwedd graidd ein dull cyflenwi yw ymgysylltu â busnesau a
chyflenwyr lleol, i wneud y mwyaf o’r budd economaidd i gymunedau lleol. Bydd
gan y Cynllun Siopwyr SHARP newydd ran bwysig o ran annog gwariant lleol ac
rydym yn llwyr gefnogol ir fenter.
“Drwy gydol y rhaglen SHARP, amcangyfrifir y bydd isgontractwyr sydd wedi’u
lleoli yn Sir y Fflint yn cael mynediad at werth £40m o becynnau gwaith. Bydd y
lefel sylweddol hwn o fuddsoddiad yn creu nifer o gyfleoedd cyflogaeth a
hyfforddiant i bobl leol a byddwn yn gweithion agos gydar Cyngor i nodi
ffyrdd y gallwn helpu busnesau lleol i dyfu, yn ystod ac ar ôl y gwaith
adeiladu.”
Os ydych yn rhedeg busnes yn y Fflint ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth,
ffoniwch Kate Catherall ar 01352 703221
Nodyn i olygyddion
Yn y llun ynghlwm mae (chwith ir dde)::
Kate Catherall, Ymgynghorydd Busnes, Cyngor Sir y Fflint, James Russell o The
Old Court House Cafe a Mick Cunningham, Rheolwr Prosiect, Wates Living Space
Homes.