Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor yn ymrwymo i gefnogi rhaglen frechu estynedig
Published: 23/03/2016
Yng nghyfarfod dydd Mawrth (22 Mawrth), cymeradwyodd Cabinet Cyngor Sir y
Fflint adroddiad ychwanegol a gyflwynwyd ar gais y Cynghorydd Christine Jones,
Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol.
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones argymhelliad ir Cyngor ymrwymo ei gefnogaeth i
ymestyn rhaglen frechu llid yr ymennydd B i bob plentyn hyd at 11 oed.
Mae Llywodraeth y DU wedi derbyn deiseb ac arni dros 820,000 o lofnodion i
gefnogi ymestyn y rhaglen, a chyflwynwyd yr adroddiad hwn i ymateb i gefnogaeth
y cyhoedd ar gyfer y ddeiseb hon.
Ar ôl y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Jones:
“Rydw i’n hapus iawn fod y Cabinet wedi cefnogi’r argymhelliad hwn. Rydym yn
gofyn ir Llywodraeth edrych ar ymestyn y rhaglen frechu a gyflwynwyd ym mis
Medi 2015. Yn ei hanfod, bydd pob plentyn a aned ar ôl 1 Mai 2015yn cael eu
cynnwys, ond mae hynnyn gadael llawer o blant diamddiffyn sydd heb dderbyn y
brechiad a allai achub eu bywyd. Caiff y clefyd hwn effaith ofnadwy ar blant
a’u teuluoedd, ac mae modd ei atal.”
Mae Pwyllgor Deisebau y Senedd, ar y cyd â’r Pwyllgor Iechyd, wrthi’n cynnal ei
ail sesiwn dystiolaeth ar y brechlyn llid yr ymennydd B, ac maent wedi cytuno i
drefnu trafodaeth ar y ddeiseb hon yn y Senedd ar ôl i’r sesiynau tystiolaeth
gael eu cynnal. Bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi dyddiad maes o law.