Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Theatr Gyfrinachol yn y Fflint
Published: 23/03/2016
Dylai pobl o amgylch y Fflint ac yn y Fflint gadw eu llygaid au clustiau ar
agor yn ystod Dydd Sul y Pasg a dydd Llun Gwyl y Banc ... yn y Fflint ac o
amgylch y Fflint, er enghraifft.... yn y Castell... neu ar Stryd Fawr y
Fflint.... neu efallai hyd yn oed mewn archfarchnad adnabyddus yn y Fflint tua
1.30pm, 2.30pm neu 3.30pm....
Mae 2016 yn nodi 400 mlynedd ers marwolaeth Shakespeare. Ac yn ystod y Pasg
eleni mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru syn
gyfrifol am ddiogelu a chadw nifer o gofebion, gan gynnwys Castell y Fflint, a
Gwasanaeth Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint yn noddi
digwyddiadau anarferol a chyffrous i ddathlu cysylltiad arbennig y Bardd â
Chastell y Fflint.
Nid yw pawb yn gwybod fod y Brenin yn ildio i fyddin gwrthryfelwyr Henry
Bolingbroke yng Nghastell y Fflint, yn y ddrama wych, Richard II gan
Shakespeare. Yna gorymdeithir Richard i Lundain lle y maen ildior goron ac
yn cael ei ladd, gan arwain y ffordd i Bolingbroke i ddod yn Frenin yn ei le -
Henry IV.
Dywedodd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Hamdden:
Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gymryd rhan yn y digwyddiad partneriaeth
cyffrous hwn sydd yn dod âr ddrama eiconig ai gysylltiad â Chastell y Fflint
yn fyw i gynulleidfaoedd lleol ac ymwelwyr.
Dylid amlygu a hyrwyddor cysylltiad rhwng y Fflint a Shakespeare yn eang mewn
nod i ddenu mwy o ymwelwyr ir ardal, ac yn ystod Blwyddyn Antur Cymru nid oes
cyfnod gwell i gyflwyno perfformiadau dramatig a digwyddiadau ymgysylltiol yn
ein trefi a safleoedd hanesyddol.
Dywedodd Janys Chambers, awdures a gafodd ei henwebu ar gyfer gwobr BAFTA a
chyfarwyddwr y digwyddiad:
Nid ydym eisiau rhoi gormod o wybodaeth, ond ar hyn o bryd mae theatr dros dro
yn boblogaidd iawn, ac ar Sul y Pasg a dydd Llun y Pasg, efallai y byddain
syniad i chi dreulio eich prynhawniau yn y Fflint ac o amgylch y Fflint, er
enghraifft.... yn y Castell,.... neu ar Stryd Fawr y Fflint.... neu mewn
archfarchnad adnabyddus yn y Fflint tua 1.30pm, 2.30pm neu 3.30pm....
Dydych chi byth yn gwybod pa gymeriadau hanesyddol lliwgar a all ymddangos....
na beth fyddant yn ei wneud!
Efallai y bydd y perfformiadau cyfrinachol yn cynnwys yr actor Richard Hand
(Emmerdale, Coronation Street, Hollyoaks) yr actor Cymreig poblogaidd Richard
Shackley (Clwyd Theatr Cymru, Theatr Iolo) a Jessica Loren, actores ifanc
newydd.
Ychwanegodd Janys:
Credwn y bydd ein digwyddiadau annisgwyl yn llawn hwyl ar gyfer pobl leol ac
ymwelwyr, wrth i ni ddathlu safle Cymreig eiconig an dramodydd gorau erioed.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Trefor Lloyd Roberts, Swyddog Datblygu
Celfyddydau CSFf Trefor.l.roberts@flintshire.gov.uk 01352 704027.