Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Digwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant Sir y Fflint
Published: 23/03/2016
Yn chwilio am waith? Angen cyngor ynglyn â sgiliau a hyfforddiant?
Dewch draw i Ddigwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant Sir y Fflint yng Nghei
Connah i wella eich siawns o gael gwaith.
Bydd Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn dod
â chyflogwyr lleol, darparwyr gwasanaeth a cheiswyr swyddi ynghyd yn Neuadd
Ddinesig Cei Connah rhwng 10am a 3pm, dydd Iau 14 Ebrill 2016.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd:
“Yn 2015, daeth 800 o bobl i’r digwyddiad hwn. Mae wedi cael ei sefydlu i
gefnogi cyflogaeth yn Sir y Fflint a dod â chyfleoedd am swyddi i bobl leol gan
roi cyfle i gyflogwyr gyfarfod ymgeiswyr wyneb yn wyneb.
“Y llynedd roedd dros 30 o gyflogwyr a sefydliadau yn bresennol, a llwyddodd
157 o unigolion i gael gwaith.”
Ar hyn o bryd, mae dros ugain o gyflogwyr lleol, gan gynnwys Ralawise, Two
Sisters, Delsol a Gap Personnel wedi cadarnhau y byddant yn bresennol. Bydd
cyflogwyr or sector gofal gan gynnwys Premier Homecare a CareTech wrth law i
ddarparu gwybodaeth am gyfleoedd cyfredol.
Cewch hefyd gymorth ymarferol i’ch helpu i ddod o hyd i waith. Mae hyn yn
cynnwys ardal wirio CV a chymorth i ysgrifennu ffurflenni cais gan Gyrfa Cymru.
Bydd cynrychiolwyr addysg bellach ac uwch hefyd ar gael i drafod opsiynau
hyfforddi a chyrsiau lleol hefyd.
Gall cynrychiolwyr o Glwb Menter Cymunedaun Gyntaf eich cynghori ar gyfleoedd
entrepreneuraidd yn Sir y Fflint a’ch cefnogi os hoffech chi sefydlu eich
busnes eich hun.
Bydd Cymunedau Gwaith ac ESGYN - cynllun Llywodraeth Cymru sydd âr nod o
ddarparu cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth ar draws Cymru - yn gallu gwirio
eich cymhwyster am gymorth ychwanegol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Nia neu Kate yn Cymunedau yn Gyntaf ar
01352 703024 / 01244 846090.
YN GALW AR BOB CYFLOGWR LLEOL!!!
A oes gennych chi unrhyw swyddi gwag ond nid oes modd i chi ddod i’r
digwyddiad? Gall Canolfan Byd Gwaith hyrwyddo eich swyddi gwag ar eich rhan? Os
hoffech chi fanteisio ar y gwasanaeth hwn, cysylltwch â Paul Murphy yng
Nghanolfan Byd Gwaith ar 07748881647.