Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2016
Published: 18/03/2016
Yr wythnos nesaf, bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gymeradwyo Asesiad o
Ddigonolrwydd Chwarae y Sir 2016 ar Cynllun Gweithredu 2016/17 dilynol sydd
angen ei anfon at Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Mawrth.
Dywedodd y Cyng. Kevin Jones, yr Aelod Cabinet dros Hamdden:
“Fel awdurdod lleol, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol o dan y Mesur Plant a
Theuluoedd (Cymru) 2010 i roi gwybod i Lywodraeth Cymru am ddarpariaeth
cynlluniau chwarae a mannau chwarae yn y sir. Trwy gynnwys yr asesiad hwn gyda
chynigion yn y dyfodol ar gyfer cynnal mannau chwarae a chynlluniau chwarae
haf, mae hyn yn darparu trosolwg llawn o ddarpariaeth chwarae yn ein Sir.”
Maer adroddiad yn cyfeirio at y rhaglen cynllun chwarae dros yr haf ar gyfer
2015 yn ogystal â thrafod goblygiadau ariannol ar gyfer cyflwyno cynllun
chwarae haf yn 2016 a 2017.
Yn ogystal, bydd gofyn i’r Cabinet argymell bod Fforwm Chwarae Strategol Sir y
Fflint yn cael ei ddiwygio yn 2016 i ffurfio fforwm aml-asiantaeth i arwain a
monitror Cynllun Gweithredu Asesiad o Ddigonolrwydd Chwarae 2016.
Nid yw cyllid Teuluoedd yn Gyntaf gan Lywodraeth Cymru ar gael bellach i
gefnogir gwaith o gyflawnir cynllun chwarae yr haf hwn. Mae Cyngor Sir y
Fflint wedi ymrwymo i ddod o hyd i gyllid am un flwyddyn i sicrhau bod arian ar
gael ar gyfer yr haf hwn. Mae effaith y golled hon o gyllid yn effeithio ar
gyflwynor rhaglen haf 2017.
Gofynnwyd i Gynghorau Tref a Chymuned ystyried cynyddu eu cyfraniad ac i
archwilio modelau cyflenwi amgen i gynnal y ddarpariaeth o gynlluniau chwarae
yn eu hardaloedd. Bydd cyfnod o gynllunio ac ymgynghori yn awr yn cael ei
gynnal er mwyn gallu ei gyflawni yn haf 2017.
Mae Llyfrgelloedd a Gwasanaethau Hamdden wedi datblygu model darparu amgen syn
rhoi cyfle i’r cyngor leihau effaith gostyngiad ar ardaloedd chwarae ag offer i
blant gan helpu i ddiogelu cyfleoedd chwarae i blant yn y sir.
Bydd y model darparu amgen yn galluogi i ragor o ardaloedd chwarae fesul
cymuned gael eu rhedeg gan y Cyngor. Mae hyn oherwydd y cynnydd mewn arbedion
effeithlonrwydd y bydd y model darparu amgen yn ei greu. Os cytunir ar hyn,
byddai trafodaethau pellach gyda chymunedau yn digwydd dros y misoedd nesaf, a
byddai gofyn i gymunedau ystyried sut y byddai’r ardaloedd chwarae sy’n weddill
yn cael eu rheoli ar lefel cymunedol.
Os caiff ei gymeradwyo gan y Cabinet, bydd yn mynd ymlaen i’r Pwyllgor Trosolwg
a Chraffu Newid Sefydliadol ar 29 Mawrth.