Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Modelau Darparu Amgen
Published: 18/03/2016
Mae gwasanaethau cyhoeddus yn mynd trwy gyfnod cyffrous o newid. Oherwydd
pwysau ariannol, lle mae gostyngiadau mewn cyllidebau yn golygu dewisiadau
anodd a cholli neu leihau gwasanaethau posibl, mae modelau cyflawni amgen yn
gorfod ffurfio rhan or ateb.
Fel awdurdod lleol arloesol a blaengar, mae Cyngor Sir y Fflint yn arwain y
ffordd trwy fynd ati i annog adrannau i dorri tir newydd ac edrych at sicrhau
ein bod yn parhau i gynnal a gwella ein gwasanaethau yn y ffyrdd mwyaf
effeithiol ac effeithlon posibl.
Yr wythnos nesaf, bydd Cabinet Sir y Fflint yn ystyried Cynlluniau Busnes gan
Hamdden a Llyfrgelloedd, Rheoli Cyfleusterau a Gofal Dydd a Chyfleoedd Gwaith
ynghylch sefydlu Modelau Darparu Amgen.
Bydd y Cabinet yn trafod yr adroddiad sy’n cynnwys y materion allweddol y
cytunwyd arnynt ar gyfer y Cyngor, y cynlluniau busnes gwasanaeth, a’r
argymhellion i sefydlu nifer o Fodelau Darparu Amgen.
Dywedodd y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
“Y rheswm allweddol rydym yn ystyried Modelau Darparu Amgen gyfer y
gwasanaethau hyn yw asesu, yn wyneb heriau’r gyllideb sy’n wynebu’r gwasanaeth,
os mai dymar ffordd orau ymlaen i gynnal y gwasanaeth ac i ddiogelu swyddi. Ni
fydd unrhyw Fodel Darparu Amgen sefydledig yn cael ei ystyried ar wahân ir
Cyngor, ond bydd yn gweithio ar y cyd gydar Cyngor i ddarparu gwasanaethau a
chanlyniadau allweddol.
“Rydym wedi nodi arbedion sylweddol o £3 miliwn yn y gwasanaethau hyn dros
gyfnod o dair blynedd. Credwn ei bod yn ddyletswydd arnom ni fel cyngor i ddod
o hyd i ffyrdd mwy effeithiol ac effeithlon o ddarparu gwasanaethau - mae
llawer o gynghorau eraill wedi llwyddo i weithredu modelau darparu or fath yn
llwyddiannus ac mae angen i ni edrych yn ofalus iawn ar y cyfle hwn.”
Maer argymhellion fel a ganlyn:
Cytuno bod Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau yn sefydlu Cwmni Masnachu Awdurdod
Lleol gydag eithriad TECKAL* (a elwir hefyd yn eithriad mewnol) i fasnachu a
dyddiad dechrau targed y sefydliad newydd yw 1 Ebrill 2017.
Cytuno bod darparu Gwasanaeth Gofal Dydd a darparu Gwasanaeth Cyfleoedd Gwaith
yn cael eu comisiynu gan fudiad cymdeithasol syn gallu dangos yn glir sut y
byddant yn gweithio gydar Cyngor i wneud y mwyaf o gyflawni gwerth
cymdeithasol a manteision cymunedol. Y dyddiad targed ar gyfer dechrau hyn yw
1 Ebrill 2017 hefyd.
Cytuno bod Hamdden a Llyfrgelloedd yn sefydlu elfen Gydfuddiannol dan Arweiniad
Gweithwyr, yn dilyn pleidlais staff yn dangos cefnogaeth ar gyfer y Cynnig. Er
mwyn bwrw ymlaen â hyn, byddai angen cynllun clir syn dangos sut mae
gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd a chysylltu’n gallu cael eu hintegreiddio
au datblygun llwyddiannus.
Mae ymgynghoriad cychwynnol wedi digwydd gyda staff cysylltiedig ar undebau, a
bydd hyn yn parhau drwy gydol y broses.
* Nodyn i olygyddion: * Maer eithriad Teckal (a elwir hefyd yn eithriad
mewnol) a ddatblygwyd trwy gyfraith achosion yr UE i ddarparu bod awdurdodau
contractio yn gallu dyfarnu contract i endid economaidd (h.y. y cyflenwr), heb
droi at drefn gaffael a reoleiddir, pan: fydd yr awdurdod contractio yn arfer
rheolaeth dros yr endid economaidd hwnnw syn debyg ir hyn y maen ei arfer
dros ei adrannau ei hun (a elwir yn brawf rheoli); a bod yr endid economaidd
yn gwneud y rhan hanfodol oi weithgareddau gydar awdurdod contractio (a elwir
yn brawf gweithrediad).