Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwella Llwybr Arfordir Cymu ymhellach
Published: 16/03/2016
Mae Peirianwyr Cyngor Sir y Fflint, swyddogion Hawliau Tramwy a Chefn Gwlad
wedi ymuno i greu llwybr beicio arall o dan Bont Rheilffordd Penarlâg yn
Shotton.
Yn dilyn stormydd drwg dros y blynyddoedd diwethaf, tanseiliwyd un or
argloddiau a bu’n rhaid cau’r llwybr beicio bob tro roedd y llanw’n uchel.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod
Cabinet dros yr Amgylchedd:
“Fe lwyddon ni i sicrhau £20,000 gan gronfa Llwybr Arfordir Cymru ac mae’n
contractwyr, G Lewis, wedi gwneud gwaith ardderchog yn gwella’r llwybr troed a
beicio hwn. Bydd y gwaith yn parhau pan gawn ragor o arian. Mae’r llwybr newydd
yn fwy diogel a bydd o fudd i’r gymuned leol a phawb sy’n ei ddefnyddio, gan
gynnwys yr elusen beicio Sustrans.”
O’r chwith: Stuart Jones – Swyddog Hawliau Tramwy, Graham Harper,
Sustrans, Tom Woodall – Pennaeth y Gwsanaeth Cefn Gwlad a’r Cynghorydd Bernie
Attridge, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd