Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwaith adeiladu yn dechrau ar gam cyntaf rhaglen tai Sir y Fflint
Published: 14/03/2016
Gwaith adeiladu yn dechrau ar gam cyntaf rhaglen tai Sir y Fflint
?Mae datblygwr adeiladu cenedlaethol, Wates Living Space Homes, wedi dechrau
adeiladu’r casgliad cyntaf o gartrefi newydd o dan Rhaglen Tai ac Adfywio
Strategol (SHARP) uchelgeisiol Cyngor Sir y Fflint.
Yn 2015, fe gyhoeddwyd mai nhw oedd partner tai y cyngor, ac mae’r datblygwr
bellach wedi cychwyn ar y gwaith adeiladu o greu 12 cartref newydd ar safle Hen
Ysgol Custom House yng Nghei Connah.
Bydd y datblygiad newydd yn rhan o gynlluniau Cyngor Sir y Fflint i adeiladu
tua 500 o gartrefi newydd ar draws y sir erbyn 2020 er mwyn ateb y galw
cynyddol am dai cymdeithasol a fforddiadwy.
Rhoddwyd caniatâd cynllunio ym mis Rhagfyr y llynedd, ac maer cartrefi newydd
yng Nghei Connah wedi cael eu cynllunio i ymgorffori gwaith brics glas a
nodweddion eiconig sydd wedi’u hadfer o hen adeilad Ysgol Custom House.
Rhaglen SHARP flaenllaw y cyngor yw’r cyntaf oi fath yng Nghymru, a bydd yn
golygu bod hyd at 2,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn ogystal â chreu tua 20
swydd prentis i bobl leol. Amcangyfrifir y bydd isgontractwyr Sir y Fflint yn
elwa ar becynnau gwaith gwerth £40m drwy gydol y rhaglen.
Daw cychwyn y gwaith yng Nghei Connah yn fuan ar ôl cyhoeddiad ym mis Chwefror
bod caniatâd cynllunio wedi’i roi i adeiladu 92 o dai yn The Walks yn Y Fflint,
yn rhan o raglen SHARP.
Dywedodd Y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
“Rwyn falch iawn mai Sir y Fflint ywr Cyngor cyntaf yng ngogledd Cymru i
ddechrau rhaglen adeiladu tai cyngor. Dymar datblygiad cyntaf o dan gynlluniau
SHARP uchelgeisiol y Cyngor, a gyda chaniatâd cynllunio wedi’i roi yn ddiweddar
ar gyfer dros 90 o dai cyngor a fforddiadwy yn safle The Walks yn y Fflint, mae
ein dyheadau bellach yn troi’n realiti.
“Maer Cyngor wedi ymrwymo i fynd ir afael âr argyfwng tai yn uniongyrchol yn
2016 ac rwyn falch y bydd y tai cyngor newydd cyntaf i gael eu hadeiladu mewn
cenhedlaeth yn ein Sir, yn cael eu hadeiladu yng Nghei Connah.”
Dywedodd Y Cyng. Helen Brown, yr Aelod Cabinet Tai:
“Bydd adfywior safle hwn yn gwellar cyfleoedd tai sydd ar gael i bobl leol
syn byw yng Nghei Connah a bydd yn nodi dechraur cyfnod cyffrous iawn dros y
pum mlynedd nesaf, pan fydd tai fforddiadwy newydd sydd fawr eu hangen, yn cael
eu darparu ar draws y Sir.
Dywedodd Joanne Jamieson, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Living Space Homes:
“Mae dechraur gwaith adeiladu yn garreg filltir arwyddocaol wrth fynd ir
afael â galw lleol am dai o safon uchel sy’n effeithlon o ran ynni yn Sir y
Fflint.
“Drwy weithion agos âr cyngor rydym yn deall arwyddocâd lleol yr hen Ysgol
Custom House, ac rydym wedi cymryd camau i ddiogelu rhywfaint o nodweddion yr
adeilad gwreiddiol. Rydym yn gobeithio y bydd hyn, ynghyd ân hymdrechion i
greu cyfleoedd helaeth ar gyfer hyfforddiant a chyflogaeth, yn arwain at
brosiect cyffrous a fydd o fudd gwirioneddol i Sir y Fflint ar gymuned leol.”
Nodyn i olygyddion
Or chwith
Ian Power Wates Living Space Homes, Adrian Cronin, Wates Living Space Homes,
Cyng. Bernie Attridge, Cyng.r. Brian Dunn, Mick Cunningham, Wates Living Space
Homes, Cyng. Helen Brown, ac Cllr. Aaron Shotton
Ynglyn â Wates Living Space
Wates Living Space, rhan o Grwp Wates, yw un o brif ddarparwyr tai fforddiadwy
a chynnal a chadwr DU. Gan weithredu ar draws y DU, mae’n canolbwyntio ar
weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid cymdeithasau tai yn eu cymunedau
lleol i adeiladu mwy o gartrefi a gwella tai presennol drwy waith cynnal a
chadw cynlluniedig ac ymatebol.
Mae Grwp Wates, a sefydlwyd dros 119 o flynyddoedd yn ôl, yn cyflogi tua 4,000
o bobl a gyda throsiant o dros £1 biliwn yn 2014. Grwp Wates oedd y contractwr
mawr cyntaf erioed i gael ei ddyfarnu gyda Marc Cymunedol Busnes yn y Gymuned,
ac yn 2013 cafodd y Wobr Busnes Cenedlaethol gyntaf am Ddinasyddiaeth
Gorfforaethol, i gydnabod ei arweinyddiaeth a rhagoriaeth mewn buddsoddi yn y
gymuned.