Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ystyried paneli solar
Published: 10/03/2016
Yr wythnos nesaf, bydd Pwyllgor Arolygu a Chraffu’r Amgylchedd Cyngor Sir y
Fflint yn ystyried datblygu dau safle ynni solar (ffotofoltaidd) ar safleoedd
tirlenwi Brookhill a Standard Landfill ym Mwcle, cyn i’r cynigion gael eu
cyflwyno gerbron y Cabinet yn ddiweddarach yn y mis.
Bydd y ddau safle’n cynhyrchu tua 1200 MWh o ynni trydanol bob blwyddyn, sy’n
ddigon o ynni ar gyfer 240 o gartrefi. Bydd yn arbed 13,500 tunnell o garbon
monocsid yn ystod oes y cynlluniau. Disgwylir y caiff llawer o’r ynni a
gynhyrchir ei ddefnyddio gan y Cyngor Sir yn uniongyrchol a hynny yn depo
Alltami gerllaw, gan leihau costau ynni’r Cyngor a’i ôl-troed carbon yn
sylweddol.
Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros
yr Amgylchedd:
Rwy’n falch iawn o gyflwyno’r cynnig hwn i’r Cabinet gan ei fod yn dangos pa
mor benderfynol yw’r Cyngor o arbed arian mewn modd cynhyrchiol ac sy’n gwneud
lles i’r amgylchedd. Mae hefyd yn dangos ein hymrwymiad i leihau costau a
charbon.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet dros Strategaeth Gwastraff
a Diogelu’r Cyhoedd:
Mae’r cynigion yn ffordd wych o ddefnyddio’r safleoedd tirlenwi gan ehangu oes
y tyrbinau nwy presennol sy’n cynhyrchu trydan o’r nwyon gwastraff a gynhyrchir
ar y safle. Maent hefyd yn diogelu ac yn gwella’r amgylchedd ar y ddau safle at
y dyfodol.”