Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dod o hyd ich dawn yn y Ffair Brentisiaid
Published: 08/03/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal Ffair Brentisiaid ar 16 Mawrth fel rhan o’r
wythnos Prentisiaid Cenedlaethol.
Mae llawer o fusnesau o Sir y Fflint a thu hwnt eisoes wedi cofrestru i gymryd
rhan yn y digwyddiad agoriadol hwn, ond mae stondinau yn dal ar gael os oes
diddordeb gan fusnesau eraill mewn bod yn bresennol.
Cynhelir y digwyddiad yn Clwyd Theatr Cymru yn yr Wyddgrug a bydd yn cael ei
gynnal mewn dwy sesiwn, un yn y bore 10:30 12 hanner dydd a 13:00 14:30.
Mae 12 ysgol uwchradd Sir y Fflint wedi cytuno i ddod â disgyblion i’r ddwy
sesiwn, felly bydd llawer o bobl ifanc yn awyddus i weld beth sydd gan
gyflogwyr lleol iw gynnig.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu
Economaidd, Maer Ffair Brentisiaid hon, y cyntaf oi math yn Sir y Fflint, yn
gyfle gwirioneddol i brentisiaid y dyfodol gyfarfod a thrafod opsiynau gyda
darpar gyflogwr. Yn ogystal â stondinau cyflogwr, bydd arddangosiadau byw a
sesiynau rhyngweithiol yn ymdrin ag amrywiaeth eang o broffesiynau, gan gynnwys
y gwasanaeth tân, therapi harddwch ar diwydiant adeiladu. Bydd cyfle i’r rhai
sy’n bresennol Rhoi cynnig ar Grefft a chael cyngor ar ysgrifennu CV.”
Am fwy o wybodaeth ac i archebu stondin, cysylltwch â Kate Catherall ar 01352
703221 neu kate.catherall@flintshire.gov.uk.