Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Olwynion sych or diwedd
Published: 02/03/2016
Mae Peirianwyr Cyngor Sir y Fflint a swyddogion Hawliau Tramwy a Chefn Gwlad
wedi dod at ei gilydd i greu llwybr beicio amgen o dan Bont Penarlâg.
Yn dilyn y stormydd drwg a gafwyd dros y blynyddoedd diwethaf, roedd arglawdd
wedi torri a oedd yn golygu bod y llwybr beicio presennol yn gorlifo yn ystod
pob llanw uchel. Gyda chyllid Llwybr Arfordir Cymru, mae £20,000 wedi cael ei
sicrhau i osod llwybr arall ar ben yr arglawdd llifogydd.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd:
Rwyn falch ein bod wedi gallu penodi contractwr i wellar llwybr troed ar
trac beicio ger Pont Reilffordd Penarlâg yn Shotton. Maer ardal yn un
boblogaidd ymysg seiclwyr a defnyddwyr llwybrau troed ond yn aml maen gorlifo
yn ystod llanw uchel. Bydd y llwybr newydd yn rhoi dewis mwy diogel i
ddefnyddwyr a bydd y gymuned leol ar nifer o bobl syn defnyddior llwybr hwn
yn elwa.
Disgwylir ir gwaith ddechrau ddydd Llun 7 Mawrth a phara pythefnos. Bydd angen
cau rhan fechan or trac beicio yn ystod y cyfnod hwn, maer cyngor am sicrhau
ei fod yn tarfu cyn lleied ag syn bosibl ar y cyhoedd tra bor gwaith hanfodol
hwn yn cael ei wneud.