Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Aelodaur Cyngor yn ymweld â Llyfrgell newydd
Published: 29/02/2016
Yn ddiweddar, ymwelodd Cynghorwyr Sir y Fflint â Chanolfan Hamdden Glannau
Dyfrdwy i weld y canolbwynt llyfrgell newydd a agorir yn swyddogol ar 4 Mawrth,
ac i archwilior gwelliannau mawr sydd wedi’u gwneud i du blaen y ganolfan
hamdden.
Maer canolbwynt newydd yn rhan o fuddsoddiad gwerth £250,000 yng Nghanolfan
Hamdden Glannau Dyfrdwy, gyda chyfraniadau ariannol mawr yn dod gan Lywodraeth
Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
Mae Canolfan Hamdden a Llyfrgell Glannau Dyfrdwy yn atyniad o bwys yn Sir y
Fflint a bydd y llyfrgell newydd ynghyd âr gwelliannau mawr sydd wedi’u gwneud
i du blaen yr adeilad ar dderbynfa yn sicrhau ei fod yn lle deniadol i ymweld
ag ef a’i fod yn parhau i fod yn dirnod lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod y Cabinet dros Addysg:
Rydym yn falch iawn o ddweud y bydd y llyfrgell newydd yn weithredol o’r
wythnos yma ymlaen. Maer llyfrgell ar gael iw defnyddio yn ystod holl oriau
agor y ganolfan hamdden. Bydd mynediad ar gael at lyfrau a chyfrifiaduron drwy
ddefnyddio cyfleusterau hunanwasanaeth. Maer llyfrgell wedi’i hariannu gan
Lywodraeth Cymru fel rhan o raglen i foderneiddio llyfrgelloedd a’u lleoli ar y
cyd â gwasanaethau eraill yn y gymuned.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod y Cabinet dros Strategaeth Wastraff,
Diogelur Cyhoedd a Hamdden:
Bydd buddsoddiad or gronfa Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn gwneud
gwahaniaeth sylweddol i’r defnydd a wneir o’r ganolfan. Bydd blaen yr adeilad
yn llawer mwy hygyrch, diogel a deniadol i fynd i mewn iddo a bydd gwell
cysylltiad rhwng y dderbynfa a’r llyfrgell newydd. Mae hyn yn ymateb i adborth
a gawsom gan ddefnyddwyr y ganolfan hamdden a darpar ddefnyddwyr y llyfrgell.
Maer llyfrgell wedi ei lleoli wrth ymyl caffi a chyntedd y ganolfan hamdden.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Pennie Corbett, Prif Swyddog Llyfrgelloedd a’r
Celfyddydau drwy anfon e-bost at pennie.corbett@flintshire.gov.uk.