Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gweinidog yn ymweld ag ysgol ddarbodus Sir y Fflint
Published: 29/02/2016
Ymwelodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, ag Ysgol Gwynedd yn y Fflint
ddydd Llun, 29 Chwefror.
Roedd yno i weld y gwaith y mae’r ysgol wedi bod yn ei wneud gyda Toyota ynglyn
â “rheoli darbodus”.
Mae’r Pennaeth yn Ysgol Gwynedd, Jeremy Griffiths, wedi datblygu modiwl
hyfforddiant llwyddiannus, gyda Toyota, ar gyfer penaethiaid or enw Creu
Diwylliant Darbodus mewn Ysgolion.
Dywedodd y Cyng. Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg:
“Cynhaliwyd nifer o gyrsiau llwyddiannus hyd yn hyn, gyda dros 55 Pennaeth a 20
Dirprwy Bennaeth o Wrecsam,
Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn manteisio ar y cyfle hwn, ynghyd â nifer o
Benaethiaid o rannau eraill y wlad. Mae’n gwrs deuddydd, gyda’r diwrnod
cyntaf gyda Toyota i weld sut y maent wedi gweithredu’r diwylliant mewn
diwydiant o’r radd flaenaf a’r ail ddiwrnod yn yr ysgol i weld sut y cymhwyswyd
diwylliant darbodus yn yr amgylchedd hwn”.
Dywedodd Mr Griffiths:
“Dechreuodd y fenter dros bedair blynedd yn ôl pan dderbyniais y cyfle i
hyfforddi fel Arbenigwr Darbodus. Roeddwn eisoes yn cymhwyso egwyddorion
darbodus yn fy ysgol ac yn datblygu staff yr ysgol ond teimlwn y gallai
Penaethiaid eraill elwa o’r offer a’r technegau sydd ar gael yn y diwydiant.
Gwelwn yr effaith y gallai’r ymarfer hwn ei gael ar safonau ar draws cymuned yr
ysgol.”
Dywedodd Keith Edwards, Rheolwr Adain TLMC, yn cynrychioli Toyota:
“Mae Toyota Manufacturing UK yn falch o gefnogi Ysgol Gynradd Gwynedd yn y
Fflint. Mae tîm Gweithgynhyrchu Darbodus Toyota wedi mwynhau gweithio gyda’r
ysgol gan eu bod mor frwdfrydig ac mae ganddynt feddwl agored ynglyn â rhoi
cynnig ar syniadau newydd ac addasu technegau a feincnodwyd yn arferion gorau’r
diwydiant.
“Maer ysgol yn enghraifft gadarnhaol iawn or hyn y gellir ei gyflawni a
dymunwn lwyddiant parhaus iddynt ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw eto yn
y dyfodol.
Prif nod y cwrs yw cyflwyno Egwyddorion Darbodus i’r ysgolion, sy’n gysyniad
newydd ar gyfer y rhan fwyaf o bobl y tu allan ir amgylchedd gweithgynhyrchu.
Mewn cyfnod o galedi mae’n ffordd o leihau gwastraff ac ychwanegu gwerth i’r
disgyblion trwy gynnwys cymuned yr ysgol gyfan. Roedd yn gyfle i’r ysgolion
weithio gyda diwydiant gweithgynhyrchu “uwch dechnoleg” i wella eu gwybodaeth
a’u dealltwriaeth or hyn y mae cyflogwr ei angen.