Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwella maes parcio ar Lwybr Arfordir Sir y Fflint
Published: 26/02/2016
Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint wedi cwblhau rhan arall o’r daith
i adnewyddu’r arfordir drwy roi wyneb newydd ar faes parcio allweddol ger
Dociau Maes Glas.
Y Ceidwad Cefn Gwlad, Tim Johnson, oedd yn gyfrifol am reoli’r prosiect, a bydd
yn caniatáu i’r gweithgareddau hamdden a’r gweithgareddau masnachol yn y doc
barhau i dyfu.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd:
“Dyma’r prosiect mwyaf y mae’r Gwasanaeth Cefn Gwlad wedi’i roi ar waith â’r
arian a gawsom y llynedd gan Gronfa Cymunedau’r Arfordir. Rydym wedi gwario
dros £13,000 ar y gwaith o roi wyneb newydd ar y maes parcio hwn, gan ddatrys
hen broblem. Cyn y prosiect hwn, maes parcio calchfaen oedd hwn, ac roedd angen
ei drwsio bob blwyddyn oherwydd byddai’r llanw’n ei ddifrodi.”
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd:
“Cafodd Sir y Fflint ychydig o dan £300,000 y llynedd gan Gronfa Cymunedau’r
Arfordir, sy’n rhan o’r Gronfa Loteri Fawr, a hynny er mwyn gwella arfordir Sir
y Fflint. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn boblogaidd ymhlith pobl leol ac ymwelwyr
a bydd y gwaith a gwblhawyd yn y maes parcio’n gwella’r rhan hon o’r Llwybr yn
Sir y Fflint. Cawson ymateb da’n barod. Mae’n braf gweld prosiect y mae’r
Gwasanaeth Cefn Gwlad wedi gobeithio dechrau arno ers tro, yn dwyn ffrwyth o’r
diwedd.”
Y Llywodraeth sy’n ariannu Cronfa Cymunedau’r Arfordir a hynny drwy gyfrwng
asedau morol Ystâd y Goron. Caiff ei ddyfarnu gan y Gronfa Loteri Fawr ar ran
Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru, Gogledd Iwerddon
a’r Alban.
Maes Pario Maes Glas cyn 2016 Maes Parcio Maes Glas ar ôl 2016