Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ydych chin barod am yr her?
Published: 29/02/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cwblhau gwaith adnewyddu gwerth £400k ac
uwchraddior offer ymarfer corff mewn campfeydd yng Nghanolfannau Hamdden
Glannau Dyfrdwy, Y Fflint, Treffynnon a’r Wyddgrug.
Maer campfeydd bellach yn cynnwys offer Technogym or radd flaenaf syn
cynnwys melinau traed, beiciau, beiciau gorwedd, peiriant trawsymarfer,
peiriannau rhwyfo ac ystod eang o offer hyfforddiant ymwrthedd a swyddogaethol
syn addas i bob defnyddiwr o bob lefel gallu. Mae gan offer cardiofasgwlaidd
newydd ystod gyffrous o adloniant digidol ac mae consolau Android wedi’u ffitio
arnynt syn caniatáu i gwsmeriaid integreiddio hyfforddiant dan do a gaiff ei
berfformio gan ddefnyddio offer campfa gyda gweithgareddau bywyd bob dydd a
hyfforddiant awyr agored yn uniongyrchol drwyr ap cwmwl Technogym mywellness.
Gall cwsmeriaid hefyd brofi rhyddid symudiad llwyr gydan hoffer hyfforddiant
swyddogaethol ARKE ac Omnia newydd syn gallu helpu defnyddwyr i wella
cydsymud, sadrwydd, cyflymder, ystwythder ac amser ymateb yn ogystal â
ffitrwydd cardiofasgwlaidd ac anadlol.
Maer campfeydd yng Nghanolfannau Hamdden Glannau Dyfrdwy, Y Fflint, Treffynnon
ar Wyddgrug hefyd yn ymuno âr her fyd-eang, ymgyrch ‘Let’s move for a better
world’ syn anelu at fynd ir afael â phroblemau cynyddol gyda gordewdra a
ffyrdd eisteddog o fyw ac i annog pobl i fod yn fwy gweithgar.
Maer ymgyrch yn rhedeg o 1 - 19 Mawrth ar nod yw ysbrydoli aelodaur ganolfan
hamdden, eu ffrindiau au teulu a chyd-ddinasyddion i roi eu gweithgaredd
corfforol i ffitrwydd fel rhan o’r her. Mae safler cyfleuster yn cael ei
bennu gan gyfanswm nifer y SYMUDIADAU a gasglwyd yn ystod yr ymgyrch. Mae
SYMUDIADAU yn cael eu casglu gan gyfranogwyr sy’n hyfforddi ar ein hoffer
cardiofasgwlaidd Technogym newydd sydd wedii gysylltu ir cwmwl mywellness
trwy gysylltiad rhyngrwyd.
Bydd y tri chyfleuster campfa gorau yn y DU yn ennill y cyfle i roi offer
ffitrwydd Technogym i sefydliad dielw lleol yn eu cymuned.
Er mwyn ymuno âr her y cyfan sydd rhaid i chi ei wneud yw galw i mewn i
Ganolfannau Hamdden Glannau Dyfrdwy, Y Fflint, Treffynnon neur Wyddgrug i
gofrestru ac rydym yn cynnig pas mynediad 7 diwrnod AM DDIM i rai nad ydynt yn
aelodau syn cofrestru. Bydd hefyd gwobrau yn cael eu rhoi ar hyd y ffordd.
Dywedodd y Cyng. Kevin Jones, yr Aelod Cabinet Hamdden;
“Mae iechyd a lles pobl Sir y Fflint yn flaenoriaeth ir cyngor hwn ac rwyn
hynod falch fod y Cyngor wedi gallu buddsoddi mewn uwchraddio cyfleusterau’r
gampfa yng Nghanolfannau Hamdden Glannau Dyfrdwy, Y Fflint, Treffynnon ar
Wyddgrug.
“Rai misoedd yn ôl gwnes ymrwymiad y byddai gwaith atgyweirio ac uwchraddio ir
ardaloedd pwll nofio a goleuadau yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon yn cael ei
wneud fel arwydd pellach o gefnogaeth barhaus y Cyngor ar gyfer y cyfleuster.
Rwyf yn siwr y bydd staff a chwsmeriaid yn cytuno y bydd y buddsoddiad o £90k
yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon yn dangos bod yr ymrwymiad hwn wedi ei
wireddu.”
“Rwyn siwr y bydd y cyfarpar Technogym newydd o’r radd flaenaf yn annog pobl o
bob oed a gallu i gymryd her ‘Lets move for a better world’.
Nodyn i olygyddion
Yn y llun ynghlwm mae Kevin Jones, Aelod Cabinet Hamdden, yn y gampfa sydd
wedi’i hadnewyddu yn ddiweddar yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon