Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwelliannau i Ardal Chwarae Maenor; Bagillt
Published: 29/02/2016
Ers 2010, maer awdurdod lleol wedi gweithio mewn partneriaeth â chynghorau
tref a chymuned i ddarparu rhaglen arian cyfatebol llwyddiannus sydd
wedi arwain at dros £1miliwn yn cael ei fuddsoddi ar gyfer gwelliannau i
gyfleusterau chwarae’r sir.
Ar gyfer 2015/16, roedd cyfanswm o £105,000 ar gael gan Gyngor Sir y Fflint ac
maer gwelliannau diweddaraf o dan y rhaglen hon wedi eu cwblhau yn
Ardal Chwarae Maenor ym Magillt, sydd wedi cael ei adnewyddu gyda £10k yn
ddiweddar.
Maer ardal chwarae wedi cael ei huwchraddio’n sylweddol gydag amrywiaeth o
eitemau offer chwarae newydd gan gynnwys strwythur aml-chwarae newydd gyda
llithren, siglenni (gan gynnwys siglen fasged), si-so, cylchfan dysgl, sponcwyr
a seddau ar gyfer rhieni a gofalwyr.
Dywedodd y Cyng. Kevin Jones, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Hamdden:
“Rwyf wrth fy modd gyda’r gwelliannau a wnaed ir ardal chwarae ac rwyn siwr y
byddant yn boblogaidd gyda phlant lleol au teuluoedd.
“Hoffwn gydnabod y gefnogaeth a chydweithrediad Cyngor Cymuned Bagillt am
weithio gyda Chyngor Sir y Fflint i wneud y gwelliannau hyn oedd wirioneddol eu
hangen i’r ardal chwarae yn bosibl. Mae hyn yn adlewyrchur gefnogaeth barhaus
ar gyfer y rhaglen dros flynyddoedd lawer gan Gynghorau Tref a Chymuned
ledled Sir y Fflint
Nodyn i olygyddion
Yn y llun sydd ynghlwm mae’r Cyng. Kevin Jones yn cael golwg ar Ardal Chwarae
Maenor, Bagillt ar ei newydd wedd