Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Yn galw holl gyflogwyr Sir y Fflint
Published: 19/02/2016
Fech gwahoddir i gymryd rhan mewn Digwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant
sydd iw gynnal ym mis Ebrill.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Iau,14 Ebrill 2016 rhwng 10am – 3pm
yn Neuadd Ddinesig, Wepre Drive yng Nghei Connah ac, os ydych yn gyflogwr â
swyddi iw llenwi nawr neu yn y dyfodol agos, yna dymar digwyddiad i chi.
Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, y Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn
gweithio mewn partneriaeth i drefnur digwyddiad hwn a anelir at oedolion a
phobl ifanc syn chwilio am waith. Gall ymgeiswyr fanteisio ar gefnogaeth ‘ar
y diwrnod’ i lenwi ffurflenni cais a byddant yn cael cynnig cyfle i adolygu eu
CV.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd:
“Yn 2015 denodd y digwyddiad hwn 800 o fynychwyr. Mae wedi ei ddatblygu i
gefnogi cyflogaeth yn Sir y Fflint a dod â chyfleoedd am swyddi i bobl leol gan
roi cyfle i gyflogwyr gyfarfod ymgeiswyr wyneb yn wyneb.
“Y llynedd roedd dros 30 o gyflogwyr a sefydliadau yn bresennol ac roedd 157 o
unigolion yn llwyddiannus wrth sicrhau cyflogaeth.”
Bydd gan Gyrfa Cymru stondin yn y digwyddiad, ynghyd â Chymunedau ar gyfer
Gwaith a rhaglen Esgyn - cynllun Llywodraeth Cymru sydd âr nod o ddarparu
cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth ledled Cymru ar gyfer pobl syn bodlonir
meini prawf penodol.
Os ydych yn gyflogwr lleol a fyddai â diddordeb mewn bod â stondin ar gyfer y
digwyddiad neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Paul Murphy
yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 07748881647 paul.murphy6@dwp.gsi.gov.uk cyn dydd
Iau 17 Mawrth 2016. Maer Neuadd Ddinesig yn ganolog iawn ac mae ganddo
gyfleusterau parcio ardderchog.