Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adeiladu cyfleoedd lleol
Published: 16/02/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio ar brosiect uchelgeisiol i sicrhau bod ei
gartrefi yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) erbyn y flwyddyn 2020.
Maer prosiect, mewn partneriaeth â chwmni adeiladu cenedlaethol Keepmoat, nid
yn unig yn gwella ansawdd bywyd trigolion, ond mae hefyd yn darparu swyddi
cynaliadwy i bobl leol.
Cafodd Keepmoat gymorth contractwr trydanol lleol, JDE Electrical o Alltami, ac
mae wedi bod yn gweithio gyda nhw dros y 4-5 mlynedd diwethaf yn ailosod
ceginau ar y Rhaglen SATC yn Sir y Fflint. Mae JDE wedi gallu cyflogi pum
prentis ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn. Maer cynllun SATC hefyd wedi helpu
tri o weithwyr eraill gwblhau eu prentisiaethau, gyda dau ohonynt wedi mynd
ymlaen i gwblhau eu cymhwyster Cynllun Hyfforddi Diogelwch Goruchwyliwr Safle
(SSSTS). Mae JDE hefyd wedi recriwtio nifer o hyfforddeion syn oedolion sydd
yn y broses o gwblhau prentisiaethau trydanol. Mae pob un or prentisiaid yn
byw yn Sir y Fflint.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Arweiniol Tai, y Cynghorydd Helen Brown, Nid yn unig
ein bod yn gwella cartrefi ein tenantiaid, ond rydym hefyd yn gallu darparu
cyfleoedd gwaith lleol
i unigolion syn byw yn Sir y Fflint. Mae JDE yn un cwmni lleol sydd wedi
elwa or Rhaglen SATC.
Meddai Kris Davies, Cyfarwyddwr JDE, Rydym yn ddiolchgar i Keepmoat a Chyngor
Sir y Fflint am roir cyfle i dyfu yn unol ân huchelgeisiau ni. Rydym yn
gwmni lleol sydd wedi elwa o gymorth SATC Cyngor Sir y Fflint.”
Mae Keepmoat wedi sicrhau contract arall ac yn parhau â’u partneriaeth gyda
JDE. Dywedodd David Williams, Rheolwr Gweithrediadau / Adnewyddu a
Chynaliadwyedd Keepmoat, Rydym yn falch iawn o fod wedi cael y cyfle i fod yn
rhan or prosiect gwych hwn. Mae SATC wedi cael effaith enfawr ar y gymuned
ehangach. Drwy weithion agos gydan partneriaid ar gadwyn gyflenwi rydym wedi
gallu darparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant cynaliadwy ar gyfer pobl
leol, gan helpu i greu cymuned ffyniannus.
Mae Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn safon ansawdd genedlaethol ar gyfer
cartrefi a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Maen golygu y dylai pob tenant yng
Nghymru
gael y cyfle i fyw mewn cartrefi o ansawdd da syn cwrdd â gofynion y cartref.
Mae Tîm Gwaith Cyfalaf Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am uwchraddio mewnol ac
allanol i bob eiddo gan y cyngor, gan gydymffurfio â SATC erbyn y flwyddyn 2020.
Yn y llun, or chwith ir dde, y tu blaen: Prentisiaid Ben Davies, Andy Dale,
Jac Williams, Matthew Palin (yn sefyll), Calum Davies, Chris Wood, Sam Williams
Yn y cefn: Julian Davies - Cyfarwyddwr JDE, Colin Welsby - Keepmoat, David
Williams - Rheolwr Gweithrediadau Keepmoat, y Cyng Bernie Attridge, y Cyng
Helen Brown, Shaun ODonnell - Syrfëwr Contract gyda Chyngor Sir y Fflint, Kris
Davies - Cyfarwyddwr JDE a Josh Davies - Goruchwyliwr yn JDE