Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dim newid ym mholisïau’r Dreth Gyngor ac Ardrethi Busnes
Published: 11/02/2016
Bob blwyddyn, mae angen i gynghorau gymeradwyo polisïau i weinyddu’r Dreth
Gyngor ac Ardrethi Busnes.
Mae hyn yn rhan o’r broses o bennu’r Dreth Gyngor, gan ystyried yr amgylchiadau
a fydd yn arwain y Cyngor i roi gostyngiad mewn trethi lleol a/neu ryddhad rhag
eu talu, i sicrhau bod biliau’r Dreth Gyngor ac ardrethi busnes yn cael eu
cyfrifo’n gywir.
Ar gyfer 2016-2017, argymhellwyd na ddylai’r Cabinet newid y Cynllun, ac y
dylid:
· parhau â’r polisi presennol o beidio â rhoi gostyngiad Treth Gyngor i ail
gartrefi a chartrefi sy’n wag ers cyfnod hir yn 2016-17;
· parhau â’r polisi presennol o ystyried gostyngiad Treth Gyngor yn ôl
disgresiwn dim ond mewn achosion o argyfyngau sifil a thrychinebau naturiol;
· parhau â’r polisi presennol o beidio â rhoi gostyngiadau ychwanegol yn ôl
disgresiwn i fusnesau sydd eisoes yn gallu hawlio Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau
Bach;
· cymeradwyo’r polisi Rhyddhad Ardrethi Busnes yn ôl Disgresiwn ar gyfer
2016-17.
Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor, “Er gwaethaf y pwysau
ariannol sy’n wynebu’r Cyngor o ganlyniad i doriadau Llywodraeth y DU, rwy’n
falch o gadarnhau na fydd lefel y rhyddhad ardrethi i gyrff elusennol,
gwirfoddol a chyrff di-elw yn newid yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.”
Mae’r polisi ar gyfer 2016-17 wedi’i gryfhau i ymdrin yn effeithiol â chyrff
newydd sy’n cael eu sefydlu fel cyrff ‘di-elw’. Mae’n rhoi darlun cliriach o’r
rheolau cymhwyso ar gyfer cwmnïau Budd Cymunedol a Mentrau Cymdeithasol.
Cwmnïau ‘di-elw’ yw’r rheini nad eu prif ddiben yw gwneud elw i’w drosglwyddo
i gyfranddalwyr; maent yn defnyddio unrhyw elw i gyflawni eu nodau a’u
hamcanion.