Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dragons Den Cymru 2016
Published: 04/02/2016
Mae Sir y Fflint, unwaith eto, yn cynnal digwyddiad tebyg i Dragons’ Den gan
obeithio denu pobl dalentog sydd â syniadau busnes newydd.
Mae’r digwyddiad hwn yn ddi-dâl ac mae croeso i bawb sydd am fod yn berchen ar
ei fusnes ei hun neu sydd am gael cymorth i fod yn entrepreneur, a gwahoddir
pobl o bob oed i gynnig syniadau. Os bydd y Dreigiau, sef bobl fusnes leol, yn
credu bod y syniad yn un addawol, byddant yn cynnig mentora’r ymgeisydd yn
bersonol.
Cynhelir y digwyddiad nesaf yng Ngholeg Cambria, Campws Glannau Dyfrdwy, fel
rhan o Ddiwrnod Gwybodaeth i Entrepreneuriaid ddydd Gwener, 26 Chwefror rhwng
10am a 2pm. Bydd cymorth ar gael i fusnesau newydd gan ddarparwyr addysg
lleol, Cymunedau yn Gyntaf, Canolfan Byd Gwaith, Gyrfa Cymru a Chyngor Sir y
Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros
Ddatblygu Economaidd: “Mae’n galonogol iawn fod cynifer o bobl fusnes
lwyddiannus yr ardal yn awyddus i helpu darpar entrepreneuriaid. Cymunedau’n
Gyntaf Sir y Fflint sy’n trefnu’r digwyddiad fel rhan o’r gwaith ardderchog
sy’n mynd rhagddo drwy Rwydwaith Entrepreneuriaeth Busnes Sir y Fflint. Y nod
yw helpu pobl leol i gael gwaith yn y farchnad lafur bresennol.”
Mae Clwb Menter Sir y Fflint yn gweithio ochr yn ochr â Dragons Den Cymru. Mae
aelodau’r Clwb i gyd yn entrepreneuriaid o bob oed ac maent i gyd wedi cyrraedd
camau gwahanol yn y broses o ddatblygu eu busnes. Mae’r clwb yn cynnig
gwybodaeth a gweithdai am ddim a chyfle i glywed siaradwyr ysbrydoledig o gyrff
amrywiol a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach. Mae Cyngor Sir y Fflint a
Thîm Busnes Llywodraeth Cymru hefyd ar gael i roi cyngor a chymorth.
Mae’r clwb yn ddi-dâl ac yn cyfarfod bob pythefnos ar Gampws Cymunedol John
Summers Community Campus, Dwyrain Ffordd Caer, Queensferry, Glannau Dyfrdwy CH5
1SE, a hynny bob yn ail nos Wener rhwng 10.30am a12.30pm.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chymunedau yn Gyntaf: 01244 846090 neu
beverly.moseley@flintshire.gov.uk