Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llyfrgell fodern newydd i agor yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy - llyfrgell hunan-wasanaeth gyntaf Sir y Fflint
Published: 01/02/2016
Bydd newidiadau’n cael eu gwneud ir rhwydwaith llyfrgelloedd yn ystod misoedd
Chwefror a Mawrth.
Maer gwasanaeth yn gwneud y newidiadau hyn yn unol â Rheoliadau Cynllun Tymor
Canolig ar gyfer Llyfrgelloedd a gytunwyd gan y Cabinet ym mis Mawrth 2015. Ei
nod yw ceisio sicrhau rhwydwaith llyfrgelloedd cynaliadwy gan greu arbedion
ariannol o 30% ar yr un pryd dros gyfnod o dair blynedd. Mae swyddogion wedi
bod yn gweithio gyda chymunedau i sicrhau fod y newidiadau hyn yn cael eu
rheoli mor esmwyth â phosibl.
Llyfrgell Glannau Dyfrdwy
Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg a Ieuenctid,
Rydym yn falch iawn y bydd llyfrgell newydd yn cael ei hagor yng Nghanolfan
Hamdden Glannau Dyfrdwy ar 29 Chwefror 2016. Bydd y llyfrgell ar gael iw
defnyddio yn ystod holl oriau agor y ganolfan hamdden. Bydd modd cael mynediad
at lyfrau a chyfrifiaduron drwy ddefnyddio cyfleusterau hunan-wasanaeth.
Maer llyfrgell wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o raglen i
geisio moderneiddio llyfrgelloedd a’u cyd-leoli â gwasanaethau eraill yn y
gymuned. Mae aelodau newydd yn cael eu gwahodd i gofrestru ar gyfer y
gwasanaeth mewn sesiynau a gynhelir dros yr wythnosau nesaf.
Bydd staff y llyfrgell yn gweithio yn y llyfrgell ar yr adegau canlynol, i
gynorthwyo cwsmeriaid gyda dewisiadau darllen, mynediad at TG a gwybodaeth.
Dydd Llun 10.00 - 5.00
Dydd Mawrth 2.00 - 7.00
Dydd Mercher 1.00 - 5.00
Dydd Iau 10.00 - 7.00
Dydd Gwener 10.00 -5.00
Dydd Sadwrn 9.00 -1.00
Maer llyfrgell wrth ymyl caffi a chyntedd y ganolfan hamdden.
Llyfrgell Mancot
Bydd y gwasanaethau a ddarperir ym Mancot o rwydwaith llyfrgelloedd y cyngor yn
dod i ben ar 26 Chwefror 2016 a byddant yn cael eu darparu yn y llyfrgell
newydd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.
Mae Cyfeillion Llyfrgell Mancot yn bwriadu gweithredur adeilad presennol ym
Mancot fel llyfrgell gymunedol o fis Mawrth ymlaen pan fydd y newidiadau hyn yn
digwydd.
Llyfrgell Penarlâg
Bydd y gwasanaethau a ddarperir ym Mhenarlâg o rwydwaith llyfrgelloedd y cyngor
i ben ar 26 Chwefror 2016 a byddant yn cael eu darparu yn y llyfrgell newydd
yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.
Llyfrgell Campws Queensferry
Bydd y gwasanaethau a ddarperir i gampws Queensferry o rwydwaith llyfrgelloedd
y cyngor yn dod i ben ar ddydd Gwener 19 Chwefror, 2016 (cyn dechraur hanner
tymor newydd i ysgolion) a bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu gan y
llyfrgell newydd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy o Dydd Llun 29 Chwefror
ymlaen.
Gwasanaeth Llyfrgell Deithiol
Bydd gwasanaeth y llyfrgell deithiol yn ymweld âr lleoliadau canlynol ar sail
rota tair wythnos gan ddechrau ar 29 Chwefror, 2016.
Penarlâg: Ymweliad cyntaf Dydd Iau 3 Mawrth
Byngalos Penarlâg, The Highway 9.30 -9.50
Maes Parcio’r Pafiliwn 10.00 -12.30
Mancot: Ymweliad cyntaf Dydd Iau 17 Mawrth
Leeches Close 9.30 -10.30
Prince William Ave 10.40 - 11.40
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Phencadlys y Llyfrgell ar 01352 704400 neu
cysylltwch â Pennie Corbett, Prif Swyddog Llyfrgelloedd a’r Celfyddydau e-bost
pennie.corbett@flintshire.gov.uk