Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Lliwiaur enfys
Published: 01/02/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint yn codir faner enfys y tu allan i Neuadd y Sir unwaith
eto eleni i gefnogi mis hanes pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol
(LGBT) yn ystod mis Chwefror.
Maer digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi cyfle i bobl ddysgu mwy am hanes a
chyflawniadau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ar mudiad hawliau
pobl hoyw a hawliau sifil.
Mae hefyd yn amser i gofio’r gwahaniaethu mae llawer wedi ei wynebu ar daith
sydd wedi ei wneud tuag at gydraddoldeb LGBT.
Dywedodd Sharon Carney, Partner Busnes Arweiniol Adnoddau Dynol: “Mae chwifio’r
faner enfys yn bwysig ir Cyngor. Mae chwifior faner drwy gydol mis hanes LGBT
yn anfon neges glir ein bod wedi ymrwymo i gydraddoldeb i bawb, o fewn y Cyngor
an cymuned ehangach.