Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2022/23
Published: 11/03/2021
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo trefniadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2022/23 pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth, 16 Mawrth.
Cynhaliwyd yr ymarfer ymgynghori blynyddol gyda llywodraethwyr ysgol, awdurdodau esgobaethol a chynghorau cyfagos yn ystod mis Rhagfyr ac Ionawr ac ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau. Roedd yr ymgynghoriad yn ymdrin â threfniadau derbyn llawn yn cynnwys y polisi derbyn, meini prawf ar gyfer mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael, yr amserlen ar gyfer derbyniadau a niferoedd derbyn (h.y. y nifer mwyaf o ddisgyblion a gaiff eu derbyn gan yr awdurdod derbyniadau i bob grwp blwyddyn).
Yn Sir y Fflint mae mwyafrif helaeth (tua 96%) o ddewisiadau rhieni yn parhau i gael eu bodloni, gyda nifer cymharol fychan o apeliadau. Disgwylir y bydd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael unwaith eto, yn enwedig ar lefel uwchradd, mewn rhai rhannau o’r Sir o ganlyniad i ddewisiadau rhieni.
Mae rhwng 1600 a 1700 o geisiadau bob blwyddyn yn y tri chyfnod derbyn, h.y. ar gyfer Blwyddyn 7, y Dosbarth Derbyn a’r Dosbarth Meithrin. Hefyd, derbynnir mwy na 1200 o geisiadau i newid ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd, yn bennaf oherwydd pobl yn symud i’r ardal. Gwneir pob cais ar-lein, a rhoddir cymorth gan Swyddogion Derbyn a staff Sir y Fflint yn Cysylltu i unrhyw rieni sy’n cael trafferth llenwi’r ffurflen.
Meddai'r Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:
"Rwy’n falch bod y rhan fwyaf o blant yn Sir y Fflint, unwaith eto, yn gallu mynychu'r ysgol y maent wedi'i dewis. Hoffwn annog rhieni a gofalwyr i ddychwelyd eu ceisiadau ar-lein erbyn y dyddiad gofynnol. Byddwn yn parhau i weithio er mwyn sicrhau bod y mwyafrif helaeth o ddewisiadau rhieni’n cael eu bodloni.”