Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Edrychiad newydd i gartrefi Sir y Fflint
Published: 25/01/2016
Mae gwaith yn cael ei wneud ar edrychiad cannoedd o dai syn eiddo ir cyngor
mewn prosiect Cyngor Sir y Fflint gwerth £4 miliwn a mwy.
Fel rhan oi ymrwymiad i fenter Llywodraeth Cymru o gyflawni Safon Ansawdd Tai
Cymru ar gyfer ei eiddo erbyn y flwyddyn 2020, maer cynllun mawr cyntaf yn
mynd rhagddo yn Nhreffynnon.
Mae gwaith eisoes wedi dechrau i wella mwy na 300 o eiddo yn y dref, gan
gynnwys toeau newydd, llinellau to a systemau rendr. Bydd y cynllun yn golygu y
bydd tua 70 o dai yn cael inswleiddio waliau allanol gan gynnwys ffenestri a
drysau newydd a fydd yn gwella diogelwch, yn torri ar golli gwres ac yn lleihau
allyriadau carbon. Cwblheir y gwaith erbyn Ebrill 2016.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Aaron Shotton: “Mae cam cyntaf ein rhaglen
fuddsoddi sylweddol yn rhywbeth yr ydym yn falch iawn ohono a bydd mwy na 300 o
deuluoedd yn mwynhau gwelliannau i’w cartrefi yn fuan iawn. Wrth i ni barhau
gydan cynlluniau buddsoddi uchelgeisiol ar gyfer ein cymunedau, rydym yn
hyderus y gallwn greu cartrefi modern, cynaliadwy ac addas i bwrpas y gallwn
oll ymfalchïo ynddynt.”
Dros y pum mlynedd nesaf, bydd y Cyngor yn buddsoddi dros £100 miliwn mewn
gwella cartrefi’r cyngor a chymunedau ar draws y Sir i sicrhau fod pob eiddo yn
bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru.
Dywedodd preswylydd Treffynnon, Mr Kenneth Williams o Ffordd Fer: “Mae pawb
sydd wedi bod yn gwneud y gwaith yn gyfeillgar iawn ac maen wych bod y Cyngor
yn helpu preswylwyr i gadw eu cartrefin ddiogel ac yn gynnes gydar
gwelliannau newydd.
Bydd y contract 40 wythnos yn Nhreffynnon hefyd yn creu nifer o gyfleoedd ar
gyfer cyflogaeth a chyflenwyr. Maer contractwyr, A. Connolly Ltd, cwmni
teuluol syn seiliedig yn Wigan yn agor swyddfa newydd yn Sir y Fflint i
hwylusor prosiect. Mae’r cwmni eisoes wedi cynnal digwyddiad Cwrdd âr
Prynwr i siarad â darpar gyflenwyr lleol newydd i gefnogir cynllun, gyda mwy
na 40 o fusnesau lleol wedi cofrestru yn cynnwys unig fasnachwyr a chwmnïau
bach lleol.
Meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Simon Harrison: “Rydym yn falch iawn o fod yn
gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint ac mae’n gyfle gwych i fuddsoddi yn economi
Sir y Fflint gyda chyfleoedd swyddi a hefyd i gael effaith gadarnhaol ar
ailwampio cartrefi yn y sir. Byddwn yn rhoi ffocws cryf ar ansawdd, datblygu
sgiliau a gwasanaeth lefelau a fydd yn ein galluogi i ychwanegu gwerth ac i
ddod â safonau uwch o fyw i drigolion lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai: “Maer Cyngor Sir
wedi canolbwyntio yn bennaf ar waith tu mewn i gartrefi pobl yn y blynyddoedd
diwethaf. Maer prosiect hwn yn dangos ein hymrwymiad ir Rhaglen SATC trwy
ddechrau canolbwyntio ar ffabrig allanol ein tai. Bydd y cynlluniau hyn yn mynd
ir afael â llawer o faterion atgyweirio a bydd hefyd yn gwella golwg clystyrau
o dai o amgylch y Sir.
Capsiwn: Yn y llun gyda Mr Williams mae Paula Eaves, Swyddog Cyswllt Tenantiaid
a Brian Winrow, Rheolwr Safle A. Connolly Ltd, Karen Stevens, Swyddog Cyswllt
Tenantiaid a Tryfan Jones, Syrfëwr Contract, Cyngor Sir y Fflint.