Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dychweliad i'r ysgol
Published: 11/02/2021
Ar hyn o bryd y cyfarwyddyd i ysgolion Sir y Fflint yw y dylent baratoi ar gyfer ailagor darpariaeth wyneb yn wyneb ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen ar 22 Chwefror. Mae hyn yn cyd-fynd â phenderfyniad Llywodraeth Cymru i ddod â rhai dysgwyr yn ôl i’r ysgol tra bod cyfyngiadau eraill y cyfnod clo yn dal yn eu lle.
Mae’r Cyngor yn monitro’r cyfraddau achosion a phrofion positif yn ddyddiol, ac yn disgwyl i’r ddau barhau i ddisgyn yn raddol dros yr wythnosau nesaf. Fodd bynnag pe bai’r sefyllfa o ran iechyd cyhoeddus yn dechrau peri pryder eto cyn 22 Chwefror yna bydd y penderfyniad i ailagor yr ysgolion ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen yn cael ei adolygu.