Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Cyfrif Refeniw Tai
Published: 14/01/2016
Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 19 Ionawr, bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn
ystyried cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2016/17.
Mae’r gyllideb ddrafft yn cynnig cynnydd mewn rhent o 1.4% (yn ogystal â hyd at
neu £2 yn llai) gyda rhent targed i denantiaethau newydd, a chyflwyno taliadau
gwasanaeth ar gyfer glanhau mannau cymunedol, gwasanaethau digidol a chynnal a
chadw erial ar gyfer tenantiaethau cyfredol.
Maer gyllideb ddrafft hefyd yn darparu buddsoddiad parhaol yn y stoc dai er
mwyn cwrdd â safonau Safon Ansawdd Tai Cymru a chychwyn rhaglen adeiladu tai
newydd.
Dywedodd y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor,
“Rwyf wrth fy modd bod y gyllideb Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2016/17 y byddwn
yn ei hargymell i’r Cyngor Sir i’w chymeradwyo fis Chwefror yn gweld y
buddsoddiad mwyaf a welwyd erioed mewn blwyddyn yn Sir Fflint ar wella cartrefi
tenantiaid ar gost o £21 miliwn, yn ogystal â buddsoddiad cychwynnol o dros £4
miliwn er mwyn cychwyn rhaglen adeiladu tai cyngor.
Dywedodd y Cyng. Helen Brown, yr Aelod Cabinet Tai,
“Rhaid i’r Cyfrif Refeniw Tai fod â chynllun ariannol byr dymor a hir dymor
mewn lle. Mae’r cynllunio tymor byr yn dangos sut bydd safon Safon Ansawdd Tai
Cymru yn cael ei gyrraedd, addewidion dogfen Dewisiadau yn cael eu cadw, a 200
o dai cyngor newydd yn cael eu hadeiladu.
“Mae’r cynllun tymor hir yn dangos cyfrif hyfyw gydag incwm dros ben dros
anghenion gwariant. Mae hyn rhoi mwy o gyfleoedd i’r Cyngor wella darpariaeth
gwasanaeth; yn darparu sicrwydd y gellir cynnal Ansawdd Safonau Tai Cymru
unwaith y byddant wedi eu cyrraedd, a gallai ddarparu cyllid cyfalaf pellach ar
gyfer tai cyngor newydd.”