Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Maniffesto CLlLC
Published: 14/01/2016
Cyhoeddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ei Maniffesto ar gyfer
llywodraeth leol yn ddiweddar, sef ‘Lleoliaeth 2016-21’. Cynllun sy’n cynnwys
40 o bwyntiau yw hwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac fe’i
cyhoeddwyd cyn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol a gaiff eu cynnal fis Mai
2016.
Mae Maniffesto CLlLC yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio’i gweledigaeth ar
gyfer swyddogaethau a chyfrifoldebau llywodraeth leol, ei chynlluniau ar gyfer
diwygio llywodraeth leol, a sut y mae am sicrhau cyllid teg a hyblyg a’i
hymrwymiad i ‘Sybsidiaredd’, sy’n rhagdybio y caiff pwer ei drosglwyddo i’r
lefel honno o lywodraeth sydd agosaf at y bobl.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor,
Cawsom gryn gefnogaeth i’n sylwadau pendant a chytbwys a gyflwynwyd i
Lywodraeth Cymru yn gofyn iddi ddeall y problemau sy’n wynebu’r Cyngor a’i
helpu i ymdopi â nhw. Mae hyn yn adlewyrchu momentwm cynyddol o blith
unigolion, grwpiau a sefydliadau i weithio gyda ni i ddiogelu gwasanaethau a
chyfleusterau hanfodol.
“Yn ei setliad dros dro a gyflwynodd i lywodraeth leol, mae’n amlwg bod
Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr achos cryf a gyflwynodd CLlLC dros arafu’r
toriadau a chafodd hynny ei groesawu’n eang.
“Mae gan Lywodraeth Cymru rôl strategol genedlaethol glir, ond mae Sir y Fflint
a chynghorau eraill yn awyddus i weld pwysau cynyddol i ddatganoli pwerau i
lywodraeth leol a chymunedau lleol.”
Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 19 Ionawr, bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried
gwahoddiad gan CLlLC i gefnogi ei faniffesto’n ffurfiol ac i ymuno â CLlLC a
chynghorau eraill i weithio gyda’r Llywodraeth newydd a gaiff ei hethol yng
Nghymru fis Mai i’w hannog i fabwysiadu cynigion y Maniffesto yn ei pholisïau
a’i chynlluniau ariannu.