Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cymunedau lleol yn awyddus i redeg llyfrgelloedd lleol
Published: 14/01/2016
Bydd cynghorwyr yn ystyried ymateb tri chymuned i gynigion ar gyfer dyfodol
tair llyfrgell wledig pan fyddant yn cyfarfod ddydd Mawrth 19 Ionawr.
Mae gan grwpiau lleol yn yr Hôb a Mynydd Isa ddiddordeb mewn rhedeg y
llyfrgelloedd rhan amser yn eu pentrefi, a hynny fel rhan o gynllun y Cyngor i
weithio mewn partneriaeth â chymunedau i drosglwyddo rhai o’i asedau cymunedol.
Gall cynghorau ddewis trosglwyddo adeiladau a thir i’r gymuned neu grwpiau
elusennol er mwyn iddyn nhw gynnal yr adeiladau a’r gweithgareddau sydd dan
fygythiad. Gallai unrhyw drefniant ar gyfer y ddwy lyfrgell fod ar waith erbyn
1 Ebrill, os bydd y Cabinet yn derbyn y cynnig.
Yn Saltney, ystyrir cais gan gynghorwyr sir lleol i ymestyn y cyfnod a bennwyd
i ymchwilio i atebion posibl i’r broblem yn lleol.
Fis Mawrth diwethaf, cytunodd y Cabinet ar Gynllun Llyfrgell Tymor Canolig, a
oedd yn amlinellu seilwaith cynaliadwy i’r llyfrgelloedd yn y dyfodol. Roedd yn
cynnwys sefydlu canolfannau llyfrgell yn yr Wyddgrug, Treffynnon, Cei Connah,
Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Bwcle a’r Fflint. Mae’r posibilrwydd o
drosglwyddo asedau cymunedau yn cael ei ystyried ar gyfer llyfrgelloedd
gwledig. Bydd y gwaith o symud llyfrgelloedd Queensferry, Mancot a Phenarlâg i
lyfrgell newydd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy wedi’i gwblhau erbyn 1
Mawrth.
Drwy ddefnyddio’r cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol ar gyfer llyfrgelloedd
yr Hôb, Mynydd Isa a Saltney, gellid helpu’r Cyngor i sicrhau arbedion
arfaethedig o £0.544m yn 2016/17 drwy’r cynllun hwnnw.
Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, yr Aelod Cabinet dros Addysg:
Rwy’n falch bod grwpiau lleol wedi dangos diddordeb brwd mewn datblygu ffyrdd
eraill o sicrhau y bydd gweithgareddau’r llyfrgell yn parhau. Bydd y Cyngor yn
gweithio gyda chymunedau lleol i sicrhau y bydd y newidiadau’n mynd rhagddynt
yn ddidrafferth os caiff y cynigion eu derbyn. Oherwydd y pwysau ariannol
presennol, nid oes gennym fawr o ddewis ond ystyried ffyrdd newydd o ddiogelu
asedau lleol pwysig ac rydym yn croesawu cefnogaeth cymunedau lleol yn y
cyswllt hwn.”