Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynnydd ar y Cytundeb Canlyniadau

Published: 09/10/2015

Mae Cytundeb Canlyniadaur Cyngor yn cynnwys meysydd allweddol lle mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i gyrraedd targedau perfformiad a drafodwyd ac y cytunwyd arnynt gyda Llywodraeth Cymru am dair blynedd (2013/14 i 2015/16). Rydym yn credu ein bod wedi cyflawnin llawn y targedau a osodwyd ar gyfer 2014/15 ac yn amodol ar gytundeb Llywodraeth Cymru gydan hunanasesiad, bydd y Cyngor yn derbyn y taliad grant llawn o tua £1.458m, sydd wedi cael ei ddyrannu. Roedd y cyngor yn llwyddiannus yn 2013/14 a chyflawnodd grant llawn. Mae gan Sir y Fflint bum maes lle mae wedi ymrwymo i adeiladu ar ei lwyddiannau; twf a swyddi cynaliadwy; addysg a gwella cyrhaeddiad ysgolion; gofal iechyd ar gyfer yr 21ain ganrif, gwella ansawdd tai a threchu tlodi drwy wella sgiliau pobl ifanc a theuluoedd. Mae llawer or meysydd hyn hefyd yn rhan o Gynllun Gwellar Cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol: Bydd twf busnes a swyddi yn dod trwy Lannau Dyfrdwy gydar prosiectau Porth y Gogledd a Pharth Menter Glannau Dyfrdwy, lle cefnogodd y cyngor greu dros 1,000 o swyddi yn 2014/15, a thrwy gynlluniau ar gyfer mentrau cymdeithasol. Mae ein rhaglen moderneiddio ysgolion yn parhau i ddarparu cefndir ar gyfer addysg, ynghyd ag addewidion i godi safonau mewn ysgolion a rhannu arfer gorau yn y rhanbarth. Mae ein hymrwymiad i ofal iechyd wedi gweld cael caniatâd cynllunio ar gyfer cyfleuster gofal ychwanegol newydd yn y Fflint ac rydym yn parhau i sicrhau bod gwasanaethau effeithiol yn eu lle i gefnogi gofalwyr. Bydd gwerthuso darpariaeth tai o ansawdd yn gyson yn sicrhau bod y Cyngor yn cynnig y mathau cywir o dai yn y lle iawn ac am bris y gall preswylwyr ei fforddio, ac i’r perwyl hwn mae’r datblygwr partner (Living Space Wates) wedi cael ei benodi i weithio gydar cyngor i ddarparu 500 o gartrefi fforddiadwy trwyr Rhaglen Dai ac Adfywio Strategol (SHARP) yn ystod y pum mlynedd nesaf. Bydd hyfforddiant sgiliau, profiad gwaith a rhaglenni entrepreneur ifanc ar gyfer y genhedlaeth iau yn cael eu cynllunio i fynd ir afael ag effeithiau tlodi. Dywedodd y Prif Weithredwr Colin Everett Maer Cyngor wedi perfformion dda yn gyson yn erbyn ei brif flaenoriaethau a thargedau yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac maen parhau i symud ymlaen âi ddyheadau i ddarparur gwasanaethau a chyfleoedd gorau i drigolion Sir y Fflint. Maer Cytundeb Canlyniadau yn gosod yr uchelgais lefel nesaf i gwrdd â blaenoriaethau polisi allweddol Llywodraeth Cymru, y mae Sir y Fflint yn rhannu ac yn cefnogi. Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried y cynnydd a wnaed ar y Cytundeb Canlyniadau ar hunanasesiad yn ei gyfarfod ddydd Mawrth