Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diogelu ein trigolion mwyaf diamddiffyn
Published: 24/12/2020
Nid yw’r cyfyngiadau Haen 4 sydd ar waith ar draws Cymru yn rhwydd i unrhyw un ohonom ni, ond maent yn arbennig o anodd i’n trigolion mwyaf diamddiffyn, pobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain a’r rhai sydd wedi eu nodi’n Eithriadol o Agored i Niwed yn Glinigol, yn arbennig dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Rydym eisiau manteisio ar y cyfle hwn i’ch atgoffa sut y gallwn helpu yn ystod y cyfnod hwn i sicrhau eich bod yn aros yn ddiogel ac yn derbyn y gofal a’r cymorth sydd ei angen arnoch chi.
Bydd ein tîm cyfeillgar yn sgwrsio gyda chi am y cymorth y gallwn ni ei gynnig. Gallwn drefnu bod bwyd a meddyginiaeth yn cael eu dosbarthu i’ch cartref a’ch cadw mewn cysylltiad â phobl.
Rydym eisoes wedi helpu aelodau o’n cymuned ac mae hyn wir wedi bod yn gefn iddynt i gadw’n ddiogel a dilyn y cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru. Cadwch yn ddiogel a daliwch ati i ddilyn y cyngor a roddwyd i chi.
Manylion cyswllt defnyddiol
Un Pwynt Mynediad Gwasanaethau Oedolion - 03000 858858 neu SPOA@flintshire.gov.uk
Canolfan Gyswllt Cyngor Sir y Fflint - 01352 752121
E-bost Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint: (ar gyfer ymholiadau Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn unig) fisf@flintshire.gov.uk
Gwefannau:
dewis.cymru
ggd.cymru
Mae dolenni i wefannau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael cyngor a chyfarwyddyd ar hafan ein gwefan: siryfflint.gov.uk
Mae cymorth ar gael
Ydych chi’n bryderus am eich iechyd a’ch lles meddyliol? A oes angen cymorth arnoch i’ch helpu chi drwy’r cyfnod llawn straen hwn? Mae gan wefan Dewis fanylion am ystod o wasanaethau cymorth iechyd meddwl a lles.