Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Casgliadau Gwastraff dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Published: 21/12/2020

Oherwydd y pandemig mae casgliadau gwastraff rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd wedi’u cyfyngu i wastraff bwyd yn unig. Rydym ni wedi gwneud y penderfyniad hwn fel nad ydym ni'n peryglu'r gweithdrefnau cadw pellter cymdeithasol sydd yn eu lle i ddiogelu ein criwiau casglu. I wneud iawn am hyn, mae casgliadau gwastraff gweddilliol wedi’u darparu i bob eiddo cyn y Nadolig, a bydd casgliad arall yn ystod yr wythnos ar ôl Dydd Calan. 

Felly ni fyddwn yn darparu gwasanaeth casglu ar y diwrnodau hyn:

Dydd Gwener 25 Rhagfyr 

Dydd Sadwrn 26 Rhagfyr 

Ddydd Sul 27 Rhagfyr 

Dydd Gwener 1 Ionawr 

Mae casgliadau’r diwrnodau uchod wedi’u symud i ddiwrnodau amgen. 

Edrychwch ar eich calendr casgliadau gwastraff i weld y newidiadau a fydd yn effeithio arnoch chi yn ystod y gwyliau. 

Bydd ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor pob dydd yn ystod y gwyliau ac eithrio Dydd Nadolig. I weld yr oriau agor ewch i: Amserau Agor Gwasanaethau'r Cyngor, Nadolig 2020.

Am syniadau ac awgrymiadau ar sut i ailgylchu eich gwastraff dros y Nadolig, dilynwch y ddolen hon: Ailgylchu Nadolig

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref - Oriau Agor Dros y Nadolig 

Bydd ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor pob dydd ac eithrio Dydd Nadolig. Mae Cymru gyfan ar lefel rhybudd 4, sy’n golygu mai dim ond teithiau hanfodol a ganiateir. Cyn i chi ymweld â safle, gofynnwn i chi feddwl yn ofalus am eich taith ac a oes arnoch chi wir angen teithio. Dim ond os ydi’ch gwastraff yn wastraff peryglus neu’n achosi niwed i’ch iechyd neu’r amgylchedd y dylech chi ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. 

Bydd ein timau yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth hwn gyda’r holl fesurau diogelwch perthnasol ar waith. Gofynnwn yn garedig i chi fod yn amyneddgar a dangos parch at ein staff pan fyddwch chi'n ymweld. 

Mae yna ychydig o newidiadau i’r oriau agor, felly cofiwch fwrw golwg ar ein hamseroedd agor cyn i chi ddechrau’ch taith. Bydd y mynediad olaf i’r safle 10 munud cyn cau - er mwyn rhoi digon o amser i chi ddadlwytho ac ati.

Noswyl Nadolig  9am - 4.30pm

Dydd Nadolig    Ar Gau 

Gwyl San Steffan  9am - 4.30pm

27 Rhagfyr 9am - 5pm

28 Rhagfyr 9am - 4.30pm

29 Rhagfyr 9am - 5pm

30 Rhagfyr 9am - 5pm

Nos Galan 9am - 4.30pm

Dydd Calan  9am - 4.30pm

Cofiwch ddod â phrawf o’ch man preswylio efo chi pan fyddwch chi’n galw heibio i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Bydd bil gwasanaeth neu fil treth y cyngor o fewn y 12 mis diwethaf yn dderbyniol.